Traffig yn cael ei ddargyfeirio ar ôl i wal gynnal ddymchwel ar yr A470 ger Talerddig
Traffig yn cael ei ddargyfeirio ar ôl i wal gynnal ddymchwel ar yr A470 ger Talerddig
Traffig yn cael ei ddargyfeirio ar ôl i wal gynnal ddymchwel ar yr A470 ger Talerddig.
Y digwyddiad wedi achosi twll ar ochr y ffordd.
Teithwyr yn gorfod teithio hyd at 70 milltir i osgoi'r ardal. Neu deithio ar lonydd bach cul i gyrraedd pen eu taith. A470, ydy? Traffig trwm. Bysus a loris, pob math o bethau. Ambiwlans - dydy hon ddim yn suitable i ambiwlans.
Dydy hon ddim yn suitable i draffig mawr. Mae'n gul 'na Mae'n rhwystr mawr - mae hon yn briffordd drwy Gymru - yr A470.
Dw i ddim yn gwybod am faint fydd hyn yn cario 'mlaen.
Cafodd rhai o ddisgyblion Bro Hyddgen ym Machynlleth drafferthion i gyrraedd eu gwersi.
Bu'n rhaid i wyth gael gwaith wedi ei rhoi iddyn nhw ar-lein.
Fel allwch chi weld y tu ôl i mi, mae'r gwaith adfer yn mynd yn ei flaen a choncrit yn cael ei osod fel rhwystr i gadw pobl draw rhag y twll yn y ffordd.
Ond mae'n annhebygol y bydd y ffordd hon yn ailagor yn fuan.
Cymryd yn ganiataol y bydd hi'n wythnos ar gau.
Maen nhw'n ceisio rhoi concrit i fewn i ddal y pridd.
Gobeithio na wneith hi fwrw gormod eto. Mae hynny yn gwneud her ychwanegol.
Maen nhw isio darganfod lle mae yna graig i wneud sylfaen gadarn a ceisio mynd o fan hynny.
Mae tir meddal y naill ochr i'r llall o'r ffordd. Mae'n cyfyngu'r opsiynau.
Mae Traffig Cymru'n dweud y byddan nhw'n rhoi mwy o wybodaeth i bobl am ailagor y ffordd cyn gynted â phosib.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn cydymdeimlo a'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan y cau ac yn annog pobl i gynllunio o flaen llaw cyn teithio.
Am y tro, parhau mewn twll mae'r heol hon.