Newyddion S4C

Y darlledwr cyhoeddus RTÉ i ddiswyddo 400 o staff yn Iwerddon

14/11/2023
RTE PA

Mae disgwyl i’r darlledwr cyhoeddus RTÉ ddiswyddo 400 o staff fel rhan o'u cynllun i fynd i’r afael â cholledion ariannol sylweddol.

Ddydd Llun cafodd manylion y cynllun diwygio strategol ei ddatgelu yn dilyn cyfnod cythryblus iawn i'r sefydliad. 

Mae’r cynllun yn cydnabod bod yn rhaid i RTÉ “ostwng costau cynyddol” yn sgil taliadau ychwanegol i’w cyn-gyflwynydd Ryan Tubridy yn gynharach eleni.

Roedd Tubridy wedi derbyn €345,000 yn ychwanegol i'w gyflog dros gyfnod o bum mlynedd gan y darlledwr cyhoeddus, ar ben ei gyflog o bron i €500,000.

Nid oedd RTÉ wedi datgelu'r taliadau ychwanegol yn eu cyfrifon.

Mae'r cynllun diwygio yn addo lleihau costau o €10 miliwn pellach yn 2024, er mwyn sefydlu dull newydd o reoli arian ar ôl iddynt eisioes ddod o dan y lach am eu dull o gadw cyfrifon a rheoli cyllid.

Fel rhan o’r cynllun arbed arian sydd wedi ei ddarparu i'r llywodraeth, mae'r diswyddiadau gwirfoddol i'w gwneud erbyn 2028.

Mae disgwyl hefyd i nifer o wasanaethau gael eu torri er mwyn blaenoriaethu technoleg wedi'i huwchraddio, sef cynnwys byw ac ar-lein, a mwy o gynhyrchu mewn rhanbarthau eraill.

Yn ôl RTÉ, bydd mwy o gynnwys yn cael ei gynhyrchu gan y sector annibynnol, a bydd yn parhau i ostwng cyflog y prif gyflwynwyr yn ogystal â chadw cap cyflog 2023.

Cyfarfod undebau

Mewn datganiad, dywedodd RTÉ y byddant yn cyhoeddi eu dogfen gweledigaeth strategol ddydd Mawrth, a hynny wedi iddynt gyfarfod ag undebau a grwpiau cynrychioli staff a chlywed gan y cyfarwyddwr cyffredinol Kevin Bakhurst.

Mae’r Grŵp Undebau Llafur (TUG) wedi galw ar RTÉ i ryddhau'r ddogfen yn llawn i staff ar unwaith.

Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb: “Nid yw’n dderbyniol bod staff yn dod i wybod am y cynllun yn y modd hwn a nawr maent yn poeni am ddiogelwch eu swyddi.”

Mae Ysgrifennydd Iwerddon undeb newyddiadurwyr yr NUJ, Seamus Dooley, wedi beirniadu datgelu’r strategaeth fel “ergyd bellach i ymddiriedaeth staff”.

“Rydym yn bryderus iawn am raddfa’r diswyddiadau arfaethedig a bydd angen gwybodaeth fanwl am eu bwriad i gynnal gwasanaethau craidd,” meddai.

Fis diwethaf fe rybuddiodd Mr Bakhurst y byddai'r darlledwr yn mynd i'r wal erbyn dechrau gwanwyn 2024 heb arian ychwanegol gan y Llywodraeth.

Mae gweinidogion wedi gwrthod rhoi €40 miliwn i lenwi’r bwlch ariannol gafodd ei greu o ganlyniad i golli refeniw o'r ffi drwydded, gan aros i RTÉ gyflawni’r cynllun diwygio strategol newydd.

Clywodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr Oireachtas fod RTÉ yn wynebu colled o rhwng €10-12 miliwn eleni.

Mewn cynhadledd i’r wasg, dywedodd y Taoiseach Leo Varadkar, Gweinidog y Cyfryngau Catherine Martin a'r Glymblaid, na fyddai’r llywodraeth yn caniatáu i RTÉ fethu.

Prif Lun: Kevin Bakhurst - Cyfarwyddwr Cyffredinol RTE

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.