Post Brenhinol yn cael dirwy o £5.6m am fethu targedau dosbarthu
Mae'r Post Brenhinol wedi cael dirwy o £5.6m gan y corff rheoleiddio, Ofcom, am fethu â chyrraedd eu targedau dosbarthu.
Yn ôl Ofcom, nid oedd y Post Brenhinol wedi cyrraedd eu targedau dosbarthu Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth ym mlwyddyn ariannol 2022/23.
O dan reolau Ofcom, mae’n ofynnol i’r Post Brenhinol ddosbarthu 93% o bost Dosbarth Cyntaf o fewn un diwrnod gwaith a 98.5% o bost Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith, bob blwyddyn.
Yn 2022/23, dangosodd canlyniadau perfformiad y Post Brenhinol mai dim ond 73.7% o bost Dosbarth Cyntaf cafodd eu dosbarthu ar amser, gyda 90.7% o bost Ail Ddosbarth yn cael ei ddosbarthu ar amser.
Rhaid iddynt hefyd gwblhau 99.9% o’r llwybrau dosbarthu ar gyfer pob diwrnod y mae angen dosbarthu.
Nid oedd y Post Brenhinol wedi cyrraedd y targed hwn chwaith wrth iddyn nhw ond gwblhau 89.35% o’r llwybrau dosbarthu.
Fe wnaeth Ofcom ystyried tystiolaeth gan y Post Brenhinol ar unrhyw amgylchiadau eithriadol a allai fod wedi achosi oedi i’w dosbarthiadau.
Ond ar ôl addasu perfformiad y Post Brenhinol ac ystyried effeithiau, gan gynnwys gweithredu diwydiannol a thywydd eithafol, dim ond 82% a 95.5% oedd ei pherfformiad Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth, medd Ofcom.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gorfodi Ofcom, Ian Strawhorne: “Mae rôl y Post Brenhinol yn ein bywydau yn bwysig iawn ac rydym yn gwybod o’n hymchwil bod cwsmeriaid yn gwerthfawrogi dibynadwyedd a chysondeb.
“Yn amlwg, cafodd y pandemig effaith sylweddol ar weithrediadau’r Post Brenhinol mewn blynyddoedd blaenorol.
“Ond fe wnaethon ni rybuddio'r cwmni na allai ddefnyddio hynny fel esgus mwyach, ac nid yw wedi cael pethau'n ôl ar y trywydd iawn ers hynny.
“Mae’r cwmni wedi siomi defnyddwyr, a dylai'r ddirwy heddiw ei hatgoffa bod rhaid cymryd ei chyfrifoldebau yn fwy difrifol.”