Newyddion S4C

Bwydlen o’r Titanic yn gwerthu am fwy na £80,000 mewn arwerthiant

12/11/2023
BWYDLEN TITANIC

Mae bwydlen swper ar gyfer teithwyr dosbarth cyntaf ar y Titanic wedi gwerthu am fwy na £80,000 mewn arwerthiant.

Cafodd y swper, oedd yn cynnwys wystrys, cig eidion, cig oen a hwyaden wyllt ei weini ar noson 11 Ebrill 1912, ar ôl i’r llong adael Queenstown yn Iwerddon am Efrog Newydd.

Bu farw mwy na 1,500 o deithwyr a chriw pan darodd y Titanic fynydd iâ ar 14 Ebrill cyn suddo’r diwrnod canlynol.

Mae'r fwydlen 6.25 modfedd x 4.25 modfedd yn cynnwys arwydd White Star Line goch a byddai wedi dangos llythrennau arian yn wreiddiol yn darlunio'r llythrennau blaen OSNC (Ocean Steamship Navigation Company) ochr yn ochr â'r llythrennau RMS Titanic.

'Darn rhyfeddol'

Dywedodd yr arwerthwr Andrew Aldridge: “Mae’n dangos arwyddion o drochi mewn dŵr... ac mae cefn y fwydlen hefyd yn dangos tystiolaeth bellach o hyn yn glir.

“Byddai hyn yn tynnu sylw at y ffaith bod y fwydlen wedi bod yn nyfroedd rhewllyd Gogledd yr Iwerydd ar fore Ebrill y 15fed, naill ai ar ôl gadael y llong gyda goroeswr a oedd yn nyfroedd oer y môr neu ar un o’r rheini a fu farw.

“Ar ôl siarad â phrif gasglwyr memorabilia’r Titanic yn fyd-eang ac ymgynghori â nifer o amgueddfeydd sydd â chasgliadau o’r Titanic, ni allwn ddod o hyd i unrhyw enghreifftiau eraill o fwydlen ginio Dosbarth Cyntaf o Ebrill 11 sydd wedi goroesi.

“Mae’r fwydlen yn ddarn rhyfeddol o hanes y llong enwocaf erioed.”

Ymhlith y teithwyr Dosbarth Cyntaf ar fwrdd y Titanic roedd y miliwnyddion John Jacob Astor a Benjamin Guggenheim, a hefyd Syr Cosmo a’r Fonesig Duff Gordon.

Cafwyd hyd i'r fwydlen mewn albwm lluniau o'r 1960au ar ôl marwolaeth y diweddar Len Stephenson gan ei ferch a'i fab-yng-nghyfraith.

Aeth y fwydlen o dan fwrthwl yr arwerthwr  yn Henry Aldridge & Son yn Devizes, Wiltshire ddydd Sadwrn gan werthu am £84,000.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.