Newyddion S4C

Annog ffermwyr Cymru i fod wyliadwrus yn dilyn achos o firws y Tafod Glas

Gwartheg

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog eu haelodau i fod yn wyliadwrus yn dilyn cadarnhad o achos unigol o firws y Tafod Glas mewn buwch dydd Sadwrn. 

Mae’r fuwch sydd wedi ei heffeithio wedi ei lleoli ar safle ger Caergaint yn Lloegr.

Nid yw'r tafod glas (BTV 3), sy'n lledaenu pan fydd gwybedyn sy'n cario'r clefyd yn pigo anifail, fel arfer yn bresennol ym Mhrydain ond mae'n endemig yn Ffrainc. 

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw frechlyn masnachol yn erbyn BTV 3 sydd wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio yn y DU.

Does gan fuwch sydd wedi ei heffeithio ddim cysylltiad â Chymru ond mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog eu haelodau i ystyried tarddiad unrhyw stoc y maen nhw wedi ei brynu ac i ystyried cyn gyrru stoc i rai ardaloedd yn Lloegr dros y gaeaf.

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Polisi UAC Dr Hazel Wright: “Mae’r darganfyddiad cynnar hwn wedi caniatáu i’r mesurau priodol gael eu rhoi ar waith i leihau’r risg o drosglwyddo clefydau ymhellach yn Lloegr.

"Mae hynny'n cynnig rhywfaint o amddiffyniad i’n ffermwyr yma yng Nghymru.”

Bydd symudiadau anifeiliaid sy’n agored i niwed yn cael eu cyfyngu fel rhan o barth rheoli dros dro  o 10km sydd wedi’i sefydlu o amgylch y safle yr effeithir arno.

'Deall y risgiau'

Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol mewn defaid:

  • briwiau yn y geg
  • llif trwchus o'r trwy a'r geg
  • y geg, pen, gwddf a'r croen yng nghefn y carn wedi chwyddo.

Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol mewn gwartheg:

  • chwydd a briwiau yn y geg
  • llif o'r trwyn
  • croen a llygaid coch am fod gwaed yn casglu ar yr wyneb
  • tethi wedi chwyddo
  • blinder

“Er nad yw’r firws hwn yn effeithio ar bobl na diogelwch bwyd, mae deall y risgiau sy’n gysylltiedig â phrynu stoc yn hollbwysig oherwydd gall effaith y clefyd hwn ar dda byw fod yn amrywiol iawn," ychwanegodd Dr Wright.

"Ni fydd rhai anifeiliaid yn dangos unrhyw arwyddion clinigol o’r haint tra gall marwolaethau ddigwydd mewn achosion difrifol."

Ar gyfer seroteipiau BTV 1,2, 4 ac 8, mae brechiad yn bosibl a dylai aelodau drafod yr opsiynau gorau ar gyfer diogelu eu stoc gyda'u milfeddyg. 

Ni fydd brechu yn erbyn y seroteipiau BTV hyn yn diogelu stoc rhag BTV3.

Ychwanegodd Dr Wright: “Gall BTV ledaenu’n gyflym ymhlith anifeiliaid cnoi cil a gall achosi colledion cynhyrchu sylweddol. 

“Gwyliadwriaeth yw'r ffordd orau o frwydro yn erbyn lledaeniad y clefyd hwn ac felly rydym yn annog aelodau i fod yn wyliadwrus ac i riportio unrhyw amheuon o glefyd ar unwaith."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.