Gwrthdaro Diwrnod y Cadoediad: Llafur yn galw ar Suella Braverman i fynd
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer wedi cyhuddo'r Ysgrifennydd Cartref o "annog casineb" ar ôl gwrthdaro rhwng yr heddlu a phrotestwyr a gwrth-brotestwyr ar Ddiwrnod y Cadoediad.
Daw wrth i'r Blaid Lafur alw ar Suella Braverman i ymddiswyddo neu gael ei diswyddo gan y Prif Weinidog Rishi Sunak.
Mewn erthygl ym mhapur newydd y Telegraph ddydd Sul dywedodd Keir Starmer mai Suella Braverman oedd wedi "annog casineb a gwrthdaro".
Ychwanegodd bod ei hagwedd at yr heddlu yn "dangos diffyg parch am werthoedd ac egwyddorion y wlad".
“Ychydig iawn o bobl mewn bywyd cyhoeddus sydd wedi gwneud mwy yn ddiweddar droi pobol Prydain yn erbyn ei gilydd a hau hadau casineb a diffyg ymddiriedaeth na Suella Braverman," meddai.
Mae Maer Llundain, Sadiq Khan hefyd wedi galw ar Mrs Braveman i ymddiswyddo neu gael ei ddiswyddo.
Ond dywedodd yr AS Ceidwadol sydd ar y meinciau cefn, Syr Michael Fabricant, wrth Radio Wales fod yna gefnogaeth iddi o fewn ei blaid.
"Fyddwn i ddim wedi defnyddio'r union yr un geiriau a hi, ond rydw i'n cytuno gyda bwrdwn ei neges," meddai.
Cafodd 126 o bobl, y rhan fwyaf yn wrth-brotestwyr, eu harestio ddydd Sadwrn wrth i 300,000 o bobol orymdeithio drwy Lundain yn galw am gadoediad yn Gaza.
Dywedodd yr heddlu bod 82 wedi eu harestio am dorri ar yr heddwch a 10 o bobl wedi eu harestio amrywiaeth o droseddau, gan gynnwys bod ag arfau ymosodol yn eu meddiant, ffraeo ac ymosod ar blismon.
Ychwanegodd yr heddlu brynhawn ddydd Sul fod saith o bobol wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r gwrthdaro.
Cafodd mwy na 100 o brotestwyr o blaid Palestina eu atal gan yr heddlu am gyfnod hefyd yn Grosvenor Place. Dywedodd Heddlu Llundain fod y grŵp wedi lansio tân gwyllt a bod llawer yn gwisgo gorchuddion wyneb.
Roedd rhai swyddogion wedi’u taro yn eu hwynebau gan y tân gwyllt, meddai'r heddlu.
Mewn datganiad nos Sadwrn, dywedodd comisiynydd cynorthwyol Heddlu’r Met, Matt Twist, fod yr heddlu’n parhau i weithio ar draws canol Llundain “yn ymateb i achosion o anhrefn a sicrhau bod safleoedd allweddol yn cael eu hamddiffyn” cyn y digwyddiadau coffa dydd Sul.
Mae’r Prif Weinidog, Rishi Sunak wedi condemnio’r digwyddiadau gan eu disgrifio fel “golygfeydd treisgar a chwbl annerbyniol".
“Nid yw’r hyn rydyn ni wedi’i weld heddiw yn amddiffyn anrhydedd ein lluoedd arfog, ond yn eu hamharchu yn llwyr,” meddai mewn datganiad a bostiwyd ar X.
Fodd bynnag, fe gafodd y ddau funud o dawelwch a gynhaliwyd wrth y Senotaff am 11:00 GMT i nodi Diwrnod y Cadoediad ei wneud yn “barchus”, ychwanegodd yr heddlu.
Ddydd Sul, bydd y Brenin Siarl yn arwain gwasanaeth Sul y Cofio ar y Senotaff ochr yn ochr â chyn-filwyr, aelodau o'r teulu brenhinol a gwleidyddion.