Gwasanaethau ar draws Cymru ar gyfer Sul y Cofio
Gwasanaethau ar draws Cymru ar gyfer Sul y Cofio
Mae gwasanaethau wedi eu cynnal ar draws Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig ddydd Sul i gofio aberth milwyr a’u teuluoedd.
Mae pobl wedi bod yn cwrdd mewn addoldai a ger cofebau i gofio’r rhai fu farw mewn rhyfeloedd, gan nodi dwy funud o dawelwch am 11:00.
Yng Nghaerdydd roedd prif wasanaeth Sul y Cofio Cymru yn cael ei gynnal am 10:30 ar Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru.
Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn bresennol ac yn gosod torch yno.
"Mae Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol Cymru yn rhoi cyfle i ni anrhydeddu'r cyfraniad anhunanol a wnaed gan bawb a gollodd eu bywydau mewn gwrthdaro yn y gorffennol a'r rhai presennol,” meddai.
“Mae'r gwasanaeth eleni mor berthnasol ac ingol ag erioed, wrth i drais waethygu yn Israel a Gaza, y rhyfel parhaus yn Wcráin, a gwrthdaro hefyd mewn llefydd eraill.
"Byddwn yn dod ynghyd hefyd i anrhydeddu'r milwyr Cymreig sy'n cyflawni dyletswyddau cadw heddwch ledled y byd.
“Bydd ein meddyliau a'n gweddïau gyda nhw, a gyda'n cyn-filwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau."
Inline Tweet: https://twitter.com/DavidTCDavies/status/1723658152938205681?s=20
‘Diweddaru’
Roedd gwasanaethau hefyd yn cael eu cynnal ym Mangor, Powys, Wrecsam, Llandudno ac Abertawe, a nifer o drefi eraill Cymru.
Yn Aberystwyth mae cyn filwr wedi talu ar gyfer goleuo y gofeb rhyfel yn y dref.
Dywedodd John Davies, 39, ei fod wedi gwneud hynny er cof am gyfaill iddo a fu farw, gan ddweud wrth y BBC fod angen “diweddaru” y gofeb yn y dref.
Dywedodd Cyngor Ceredigion bod angenm “buddsoddiad sylweddol” yn y system oleuadau o amgylch y gofeb sydd ger y castell.
“Bydd hyn yn cael ei wneud gan gwmni sydd â’r cymwysterau cywir cyn gynted a bo modd,” medden nhw er mwyn “cydnabod aberth” yr rheini fu farw.
Llun: Mark Drakeford ar Sul y Cofio eleni.