Cipolwg ar gemau trydedd rownd Cwpan Cymru JD nos Wener

Bydd Cei Connah yn herio Prestatyn gyda Llanelli yn croesawu Hwlffordd yn y ddwy gêm fydd yn cael eu chwarae yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru JD nos Wener.
Cei Connah (Haen 1) v Prestatyn (Haen 2) | Nos Wener – 19:45
Ail Rownd: Cei Connah 4-1 Caernarfon, Llanelwy 0-1 Prestatyn
Bydd hi’n dipyn o achlysur i Neil Gibson nos Wener pan fydd yn croesawu ei gyn-glwb a’i dref enedigol, Prestatyn i wynebu ei glwb presennol, Cei Connah ar Gae-y-Castell.
Mae Gibson wedi treulio sawl cyfnod fel rheolwr Prestatyn ac wedi ennill dau ddyrchafiad i’r uwch gynghrair gyda’r clwb.
2013 oedd tymor mwyaf llwyddiannus Prestatyn wrth i Neil Gibson arwain y clwb i ennill Cwpan Cymru fel chwaraewr-reolwr, yn curo Bangor yn y rownd derfynol, ac yna’r tîm yn sicrhau eu lle’n Ewrop gyda Gibson ei hun yn sgorio yn erbyn Liepājas Metalurgs o Latfia.
Ar ôl cyfnod gyda’r Fflint, mae Gibson bellach yn reolwr ar Cei Connah ers haf 2022, ac wedi arwain y Nomadiaid i Ewrop y tymor diwethaf ar ôl gorffen yn 2il yn y tabl.
Yn ogystal â’r rheolwr mae carfan Cei Connah yn cynnwys nifer o hogiau Prestatyn sydd hefyd wedi cynrychioli’r clwb (Noah Edwards, Kai Edwards, Jordan Davies, Dan Roberts).
Collodd Cei Connah yn erbyn Caersws yn y drydedd rownd yn 2013/14, ond ers hynny mae’r Nomadiaid wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf ar bob achlysur, gan chwarae mewn dwy ffeinal (ennill un, colli un).
Enillodd Cei Connah y gwpan yn 2018 ar ôl curo Aberystwyth o 4-1 ar Barc Latham dan reolaeth Andy Morrison, ond baglu yn y rownd gynderfynol oedd eu hanes y tymor diwethaf, yn colli 3-2 yn erbyn Y Bala.
Ers ennill y gystadleuaeth yn 2013, mae Prestatyn wedi colli yn y drydedd rownd mewn saith allan o’r naw achlysur diweddaraf.
Gyda Neil Gibson wrth y llyw fe gyrhaeddodd Prestatyn rownd yr wyth olaf yn 2017 a cholli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Cei Connah, ac yna’n cyrraedd y rownd gynderfynol yn 2020 cyn i’r gystadleuaeth gael ei diddymu oherwydd Covid-19.
Karl Clair yw chwaraewr-reolwr Prestatyn bellach ar ôl cael ei benodi fis diwethaf, ac yn yr wyth gêm ers iddo gymryd yr awennau ar Erddi Bastion mae’r tîm wedi ennill pedair a cholli pedair, yn cynnwys buddugoliaeth yng Nghwpan Nathaniel MG yn erbyn Bae Colwyn o’r uwch gynghrair.
Mae Prestatyn wedi colli pedair o’u pum gêm ddiwethaf, ac mae nhw’n wynebu tîm fydd yn benderfynol o greu argraff gan i Gei Connah golli yn erbyn Met Caerdydd y penwythnos diwethaf gan ddod a rhediad o 12 gêm heb golli i ben.
Mae 20 safle yn gwahanu’r ddau glwb yn y pyramid pêl-droed, ac mae’r Nomadiaid wedi ennill eu wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Prestatyn.
Awst 2014 oedd y tro diwethaf i Brestatyn drechu Cei Connah gyda Gibson yn aelod o garfan y tîm buddugol, ond mi fydd y gŵr 44 oed yn awyddus i osgoi unrhyw sioc ar Gae-y-Castell nos Wener.
Llanelli (Haen 2) v Pen-y-bont (Haen 1) | Nos Wener – 19:45 (Yn fyw arlein)
Ail Rownd: Llanelli 4-0 Llanilltud Fawr, Cwmbrân Celtaidd 0-3 Pen-y-bont
Fel Neil Gibson a Phrestatyn, bydd gan rheolwr Pen-y-bont, Rhys Griffiths atgofion melys o’i gyfnod gyda Llanelli ble y treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa fel chwaraewr.
Rhwng 2006-12 roedd Griffiths yn arwr yn Llanelli gyda record wych o flaen gôl, yn sgorio 180 gôl mewn 181 o gemau yn Uwch Gynghrair Cymru.
Enillodd bencampwriaeth UGC unwaith gyda Llanelli (2007/08), enillodd wobr ‘Chwaraewr y Tymor’ ar dri achlysur (2005/06, 2007/08 a 2010/11), ac enillodd yr ‘Esgid Aur’ am saith tymor yn olynol!
Yn 2011 fe enillodd Llanelli Gwpan Cymru am yr unig dro yn eu hanes, gyda Rhys Griffiths yn sgorio ddwywaith yn erbyn Bangor yn y rownd derfynol.
Ar ôl cyfnodau’n chwarae’n broffesiynol gyda Plymouth Argyle a Chasnewydd, mae Griffiths bellach wedi bod yn rheoli Pen-y-bont ers 2016, ac wedi arwain y clwb i rownd derfynol Cwpan Cymru yn 2022 (colli 3-2 vs YSN).
A llynedd, fe hawliodd Pen-y-bont eu lle’n Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl gorffen yn 3ydd yn y tabl, ond dyw pethau ddim yn mynd mor esmwyth eleni.
Mae Pen-y-bont yn 7fed yn y tabl ar ôl colli pedair o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf, tra bod Llanelli ar frig Cynghrair y De ar ôl colli dim ond un mewn 12 ym mhob cystadleuaeth (ennill 10, cyfartal 1).
Mae’r hyder yn uchel ar Barc Stebonheath gan bod tîm Lee John wedi sgorio 19 gôl yn eu pedair gêm ddiwethaf ac ildio dim ond unwaith.
A Llanelli sydd wedi bod yn fuddugol yn yr unig ddwy gêm flaenorol yn erbyn Pen-y-bont, yn eu curo ddwywaith yn nhymor 2017/18 heb ildio gôl.
Llwyddodd Llanelli i gyrraedd y bedwaredd rownd y tymor diwethaf cyn colli
0-2 yn erbyn Cei Connah, ac fe gyrhaeddodd Pen-y-bont y rownd gynderfynol cyn colli 2-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd ar Barc Waun Dew, Caerfyrddin.
Mae Pen-y-bont wedi ennill 10 o’u 12 gêm yng Nghwpan Cymru ers 2021, gyda’r unig ddwy golled yn dod yn erbyn Y Seintiau Newydd yn ffeinal 2022 a’r rownd gynderfynol yn 2023.
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 21:35.