Y trawsblaniad llygaid cyntaf erioed yn 'llwyddiannus'
Mae llawfeddygon yn yr Unol Daleithiau wedi perfformio’r trawsblaniad llygaid cyntaf erioed ar ddyn.
Fe gafodd Aaron James llawdriniaeth 21 awr ar ei wyneb gan lawfeddygon yn Efrog Newydd, a hynny ar ôl iddo oroesi damwain drydanol.
Ond nid oes unrhyw sicrwydd y bydd ei olwg yn dychwelyd, meddai’r arbenigwyr.
Mae trawsblaniadau'r cornbilen eisoes wedi’i cynnal yn llwyddiannus ers blynyddoedd, ond dyma fydd y llawdriniaeth gyntaf i drawsblannu’r llygaid cyfan.
Fe gollodd Mr James, sy’n weithiwr llinellau trydanol foltedd uchel o Arkansas, hanner o’i wyneb yn 2021 wedi iddo gyffwrdd a gwifren 7,200 folt yn ddamweiniol.
Fe gafodd Mr James, sydd hefyd yn gyn-filwr, drawsblaniad prin ar ei wyneb, yn ogystal â’r trawsblaniad llygaid, ar 27 Mai eleni. Roedd dros 140 o arbenigwyr meddygol yn rhan o’r broses.
Mae llawfeddygon NYU Langone Health bellach wedi cyhoeddi ddydd Iau fod y gŵr yn gwella yn dilyn ei lawdriniaeth, a bod y llygad chwith yn edrych yn iach.
"Mae'r ffaith ein bod ni wedi llwyddo i gyflawni'r trawsblaniad llygad cyfan cyntaf ar wyneb yn llwyddiannus yn gamp aruthrol - roedd nifer wedi meddwl ei fod yn amhosib,” meddai Dr Eduardo Rodriguez, a wnaeth helpu i arwain y llawdriniaeth.
Mae Aaron James wedi galw’r trawsblaniad yn “drawsnewidiol” ac mae'n “hynod o ddiolchgar” i’r rhoddwr am ei gymorth.