Dyn yn euog o lofruddio athrawes ysgol wrth iddi ymarfer corff
Mae dyn wedi ei gael yn euog o lofruddio athrawes ysgol wrth iddi ymarfer corff ger camlas yng Ngweriniaeth Iwerddon y llynedd.
Cafodd Ashling Murphy, 23, ei llofruddio wrth redeg ar hyd llwybr camlas yn Tullamore, Swydd Offaly ym mis Ionawr 2022.
Cafwyd Jozef Puska, 33, sydd o Slofacia yn wreiddiol, yn euog o’i llofruddiaeth ddydd Iau yn Llys Troseddol Dulyn.
Doedd ganddo ddim cysylltiad â hi ond roedd wedi ymosod arni a’i thrywanu 11 o weithiau yn ei gwddf â chyllell.
Cafodd Jozef Puska ei weld ar gamera cylch cyfyng yn dilyn dwy ddynes leol ar ei feic yn ystod yr oriau cyn i Ms Murphy gael ei lladd.
Cychywnodd Ashling Murphy redeg ger y gamlas am 14.51.
Roedd data o’i dyfais Fitbit yn awgrymu ei bod hi wedi marw 40 munud yn ddiweddarach.
Roedd y rheithgor yn unfrydol fod Puska yn euog..
Wedi'r dyfaniad, dywedodd y barnwr yr Ustus Tony Hunt wrth y rheithgor “mae yna ddrygioni mawr yn yr ystafell hon”.
Ychwanegodd y byddai Puska yn cael ei “ddal i gyfrif” wrth gael ei ddedfrydu ar ddiwrnod arall.
Wrth siarad am deulu Ashling Murphy, dywedodd: “Mae ystyried beth ddigwyddodd yma yn ddigon i'ch gwneud yn gorfforol sâl."
Cafodd y rheithgor gymeradwyaeth wrth iddyn nhw adael y siambr wrth i fam Ms Murphy ddal llun wedi ei fframio o'i merch i fyny.