Newyddion S4C

Protest Gaza: Suella Braverman yn corddi'r dyfroedd wrth feirniadu Heddlu'r Met

09/11/2023
Protest PALESTEINA

Mae'r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman wedi cyhuddo'r heddlu o ddangos “safonau dwbl” gan ddewis “ffefrynnau” rhwng phrotestwyr ar drothwy gorymdaith o blaid Palesteina ar Ddydd y Cadoediad dros y penwythnos.

Mae'n ymddangos y bydd y brotest ddydd Sadwrn yn cael ei chynnal er gwaethaf gwrthwynebiadau’r Llywodraeth.

Honnodd Mrs Braverman fod “gangiau o blaid Palesteina” yn cael eu “hanwybyddu i raddau helaeth, hyd yn oed pan maen nhw yn amlwg yn torri’r gyfraith”.

Fe drefnodd y Prif Weinidog Rishi Sunak gyfarfod brys gyda phennaeth Heddlu'r Met, Syr Mark Rowley, ynglŷn â’r orymdaith sydd wedi’i threfnu yn Llundain, gan ddweud y byddai’n dal pennaeth Scotland Yard yn “atebol” pe bai helynt.

Mae Syr Mark wedi wynebu pwysau gan y Ceidwadwyr i wahardd yr orymdaith yn Llundain, ond mae wedi dweud mai dim ond mewn “achosion eithafol” y byddai’r gyfraith yn caniatáu iddo wneud hynny.

Yn dilyn eu trafodaeth ddydd Mercher, dywedodd Mr Sunak fod y brotest arfaethedig ar Ddydd y Cadoediad “nid yn unig yn amharchus ond yn tramgwyddo ein diolch i’r rhai a roddodd gymaint er mwyn inni fyw mewn rhyddid a heddwch heddiw” gan gynnwys "yr hawl i brotestio’n heddychlon”.

'Uchafiaeth' 

Ond wrth ysgrifennu yn The Times, dywedodd Mrs Braverman: “Nid wyf yn credu mai dim ond cri am help i Gaza yw’r gorymdeithiau hyn.

“Maen nhw’n gri o uchafiaeth gan rai grwpiau - yn enwedig Islamwyr - o’r math rydyn ni’n fwy cyfarwydd â’i weld yng Ngogledd Iwerddon. 

"Mae adroddiadau bod gan rai o drefnwyr grwpiau sy'n gorymdeithio ddydd Sadwrn gysylltiadau â grwpiau terfysgol, gan gynnwys Hamas, hefyd yn destun pryder.”

Mae erthygl Mrs Braverman yn un o nifer o sylwadau dadleuol gan yr Ysgrifennydd Cartref dros y dyddiau diwethaf - gyda rhai gweinidogion yn ceisio ymbellhau oddi wrth rai o’i sylwadau.

Mae hi wedi disgrifio’r protestiadau i gefnogi Palesteina fel “gorymdeithiau casineb” a hefyd wedi honni bod rhai pobl yn dewis bod yn ddigartref fel “ffordd o fyw”.

Roedd yn ymddangos bod cyfarfod Mr Sunak â Syr Mark wedi lleddfu rhywfaint ar y tensiwn rhwng y Llywodraeth a’r Met, cyn i Mrs Braverman leisio ei barn unwaith eto.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.