Actorion yn cyrraedd cytundeb i ddod â streic yn Hollywood i ben
Mae actorion yn Hollywood wedi cyrraedd cytundeb arwyddocaol gyda phenaethiaid stiwdios a allai olygu bod bron i bedwar mis o streicio yn dod i ben.
Fe aeth actorion SAG-AFTRA – undeb mwyaf Hollywood, sy’n crynrychioli 160,000 o actorion ffilm a theledu, ar streic ym mis Gorffennaf, dros faterion cyflog a phryderon am ddeallusrwydd artiffisial (AI).
Bu’r actorion yn streicio am gyfanswm o 118 diwrnod - sef streic hiraf yr undeb erioed.
Mewn cyhoeddiad ddydd Mercher, dywedodd undeb SAG-AFTRA, y bydd y streicio yn dod i ben am 12.01am ddydd Iau yn dilyn “pleidlais unfrydol”.
Daw’r cytundeb ar ôl i bwyllgor negodi’r undeb dreulio dyddiau’n trafod sawl eitem yr oedd yn eu hystyried yn “hanfodol”, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial.
Roedd yr actorion yn poeni y bydd fersiynau digidol ohonyn nhw yn cael eu defnyddio heb eu caniatâd na chwaith iawndal priodol.
Dywedodd AMPTP, y gymdeithas sy’n cynrychioli cwmniau gan gynnwys Netflix Inc. a Walt Disney Co, mai dyma oedd y cynnig “olaf, gorau a therfynol.”
Bydd y cytundeb yn cael ei adolygu a'i ystyried gan fwrdd cenedlaethol SAF-AFTRA ddydd Gwener.
Ym mis Medi cytunodd Urdd Awduron America (WGA), sy’n cynrychioli dros 11,000 o aelodau, i gytundeb gyda phenaethiaid stiwdio ar ôl i'w haelodau nhw streicio am bron i bum mis hefyd.