Ychwanegu 27 o goetiroedd i rwydwaith Goedwig Genedlaethol Cymru
Mae 27 o goetiroedd newydd wedi cael eu cydnabod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru medd y llywodraeth.
Fe fydd nifer o goetiroedd ledled Cymru yn ymuno a’r 14 coetir sydd eisoes yn rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol ddydd Iau.
Bydd y 15 coetir cychwynnol y rhai cyntaf i ymuno â'r rhwydwaith ers i'r Cynllun Statws Coedwig Genedlaethol gael ei lansio gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin, gan alluogi ystod ehangach o goetiroedd i ddod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol medd gweinidogion.
Mae’r rhain yn cynnwys Gardd Furiog Erlas yn ardal Wrecsam, coetir Beddgelert ym Mharc Genedlaethol Eryri, a choetir Coed Gwent sy’n lledaenu ar draws y de-ddwyrain.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cynnig 12 ardal o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru a fydd yn ymuno â'r rhwydwaith, gan ychwanegu bron i 24,000 hectar pellach i’r goedwig genedlaethol.
Dywedodd Dominic Driver, sef Pennaeth Stiwardiaeth Tir Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae'r angen i gynorthwyo adferiad natur yn fater brys ac mae creu a gwella coetiroedd yn un o'r pethau gorau y gallwn ei wneud yng Nghymru i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur.
"Bydd Coedwig Genedlaethol Cymru yn chwarae rhan bwysig wrth gyfrannu at yr ymateb hwnnw, mewn ffordd sy'n gweithio i bobl a natur.
"Rydym yn falch iawn o allu gweithio gyda chynlluniau Llywodraeth Cymru a helpu i’w cefnogi, a chwarae ein rhan i helpu i greu'r Goedwig Genedlaethol yng Nghymru."
‘Budd hirdymor’
Cafodd cynlluniau ar gyfer Coedwig Genedlaethol Cymru eu cyhoeddi gan y Prif Weinidog Mark Drakeford yn 2020, a hynny er mwyn creu ardaloedd o goetir newydd, ac i helpu adfer a chynnal rhai o goetiroedd hynafol Cymru.
Dywedodd Mr Drakeford: "Rwy'n falch iawn o weld faint o gymunedau sy'n cymryd rhan yn y Goedwig Genedlaethol. Bydd yr ehangiad yn cyfrannu at greu coetir parhaus sy'n ymestyn o'r Gogledd i'r De, o'r Gorllewin i'r Dwyrain, gan greu budd hirdymor o ran yr amgylchedd, iechyd a llesiant ym mhob cwr o Gymru.
"Bydd y Goedwig Genedlaethol yn creu ased parhaol, tebyg i'n Llwybr Arfordir Cymru, sy'n darparu llawer o fudd, nid yn unig i'n poblogaeth heddiw, ond am genedlaethau i ddod.”
Llun o Goetir Beddgelert (Cyfoeth Naturiol Cymru)