Newyddion S4C

'Rydym yn byw drwy hunllef': Cwpwl yn mynnu atebion gan Gyngor Môn dros fynedfa i'w cartref

10/11/2023

'Rydym yn byw drwy hunllef': Cwpwl yn mynnu atebion gan Gyngor Môn dros fynedfa i'w cartref

“Mae’n anodd dweud pa effaith mae hyn wedi ei gael arnom ni, ond o safbwynt ariannol, mae wedi'n chwalu ni.”

Mae cwpwl yn eu 70au sydd heb fynedfa ffordd i’w cartref ar Ynys Môn yn galw am ymchwiliad annibynnol i Gyngor Môn ar ôl blynyddoedd o "fyw drwy hunllef."

Mae Gerald Wilson, 76, a’i wraig Kathryn, 73, wedi byw yn y tŷ tu allan i bentref Brynsiencyn ers 2018.

Dwy flynedd ar ôl iddyn nhw symud i’w cartref, fe benderfynodd Cyngor Môn nad oedd ganddynt yr hawl cyfreithiol i ddefnyddio’r unig ffordd oedd ar gael iddyn nhw i gyrraedd eu heiddo – a hynny ychydig fisoedd ar ôl i’r awdurdod eu hatal rhag defnyddio’r unig ffordd arall i’w tŷ.

Mae hynny’n golygu nad oes gan Mr a Mrs Wilson yr hawl i ddefnyddio’r naill ffordd sydd yn arwain at eu tŷ. 

O ganlyniad, nid ydynt yn gallu gwerthu eu heiddo gan nad oes gan yr eiddo sydd heb fynediad cyfreithlon unrhyw werth, yn ôl tri arwerthwr tai sydd wedi ymweld â’r eiddo. 

Mae’r cwpwl wedi gwario miloedd o bunnoedd wrth geisio brwydro'r dyfarniad, ac maent wedi dwyn hawliad cyfreithiol yn erbyn y cyngor am y gwerth sydd wedi ei golli yn eu heiddo.

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd Mr Wilson: “O safbwynt ariannol, mae’n eithaf syml: mae hyn wedi ein difetha ni.

“Mae bob dim ‘da ni efo yn y tŷ yma, ond allwn ni ddim ei werthu, allwn ni ddim symud, allwn ni ddim gwneud unrhyw beth. Mae o wedi cael effaith mawr arnom ni o safbwynt iechyd meddwl hefyd.”

Mae’r Cyngor yn dweud nad ydyn nhw am wneud sylw ar y mater, tra bod hawliad cyfreithiol yn eu herbyn.

Image
Lon Chwarelau
Lôn Chwarelau

‘Straen’

Fe symudodd Mr a Mrs Wilson, sydd yn wreiddiol o Sir Gaerhirfryn, i dŷ ym Mrynsiencyn yn 2015 i ymddeol. Yna, fe benderfynodd y cwpwl i symud i ardal fwy gwledig, ychydig o filltiroedd y tu allan i’r pentref, yn 2018.

Ar y pryd, roedd un ffordd ddi-enw i gyrraedd y tŷ, ac nid oedd hawl gan gerbydau i ddefnyddio ffordd arall fwy uniongyrchol i'r eiddo, sef Lôn Chwarelau, ers 2005. 

Mae dogfennau hanesyddol sydd wedi eu gweld gan Newyddion S4C yn dangos bod Lôn Chwarelau wedi ei hystyried fel un gyhoeddus ers degawdau. 

Ac wrth gynnal archwiliadau yn y broses o symud i’r tŷ, fe gafodd Mr Wilson gadarnhad gan swyddog o adran briffyrdd y Cyngor ar y pryd, fod y ffordd yn cael ei chynnal a'i chadw o'r pwrs cyhoeddus.

Cais

Ar ôl prynu’r tŷ yn 2018, fe wnaeth Mr Wilson wneud cais am ganiatâd i ddefnyddio Lôn Chwarelau yn 2019. 

Fe wnaeth y cyngor dderbyn y cais ar yr amod y byddai Mr Wilson yn gosod rhwystr parhaol i atal mynediad i’r tŷ o’r ail ffordd ddi-enw gerllaw, sydd heb ei rhestru. 

Felly fe wnaeth Mr Wilson osod y rhwystr i gydymffurfio gyda cais yr awdurdod lleol.

Ond, ar ôl i gymydog gysylltu gyda’r cyngor i wrthwynebu’r penderfyniad, fe gysylltodd Cyngor Môn gyda Mr Wilson yn 2020, yn dweud nad oedd Lôn Chwarelau yn un gyhoeddus wedi’r cwbl. 

Roedd y ffordd yn un breifat meddai'r awdurdod, ac oni bai fod gan Mr Wilson dystiolaeth yn profi i’r gwrthwyneb, nid oedd hawl ganddo i ddefnyddio’r ffordd bellach.

Tystiolaeth

Er i Mr Wilson rannu dogfennau a'r ymateb gan adran briffyrdd y cyngor o’r flwyddyn flaenorol gyda swyddogion, fe wnaethant wrthod derbyn y dystiolaeth yma, gan ddweud y gallai Lôn Chwarelau fod wedi ei rhestru fel ffordd gyhoeddus "mewn camgymeriad".

Dywedodd Mr Wilson, oedd yn gweithio fel darlithydd peirianneg cyn ymddeol: “Un munud maen nhw’n dweud ei bod yn ffordd gyhoeddus, y munud nesaf maen nhw’n dweud nad ydy hi’n gyhoeddus ac mae’n rhaid i mi brofi ei fod yn un gyhoeddus. 

“Fe wnaethon ni ddangos yr archwiliadau tir, y llythyr gan adran briffyrdd y cyngor oedd yn cadarnhau ei bod yn gyhoeddus, y cais cynllunio ac affidavit gan y doctor lleol sydd yn dweud ei bod yn ffordd gyhoeddus. 

"Mae pobl sydd wedi byw yma drwy eu bywydau yn dweud ei bod yn ffordd gyhoeddus. Ond doedd hynny dal ddim yn ddigon i’r cyngor. Felly be arall fyddai rhywun yn gallu ei wneud?”

Image
Gerald Wilson
Gerald Wilson y tu ôl i'r rhwystr parhaol sydd wedi ei osod o flaen ei dŷ i'r ffordd.

‘Caeth’

Roedd y penderfyniad yn golygu nad oedd Mr Wilson a’i wraig yn cael defnyddio Lôn Chwarelau i gyrraedd eu tŷ bellach – na chwaith y ffordd arall, oedd gyda rhwystr parhaol.

“Rydym yn gaeth i’r tŷ yma heb fynediad cyfreithiol i'n heiddo, ac yn waeth fyth, mewn tŷ sydd yn ddi-werth,” ychwanegodd Mr Wilson. 

“Mae’r holl beth wedi rhoi lot fawr o straen arnom, i’r pwynt lle rydym wedi ystyried gwerthu’r tŷ er mwyn cael gadael. 

“Yn anffodus, mae sawl arwerthwr tai wedi dod yma a dweud, ‘gallwch chi ddim gwerthu’r tŷ yma, does dim mynediad cyfreithiol ato. Yn syml, does dim gwerth i’ch eiddo.’ Felly ‘da ni wedi rhoi ein holl arian yn y tŷ yma a fedrwn ni ddim ei werthu, fedrwn ni ddim symud.

“Fe wnaethon ni ddod i Ynys Môn er mwyn ymddeol. Nid tŷ gwyliau ydy hwn, dyma ein cartref. Ond mae’r ffordd ‘da ni wedi cael ein trin gan y cyngor yn wneud i chi feddwl beth yn union sydd yn digwydd yno?

“Pe byddai’r archwiliad tŷ wedi dangos fod y ffordd ddim yn gyhoeddus, ni fyddwn wedi ceisio cael mynediad yma ar hyd Lôn Chwarelau. Ond yn amlwg, mae hi wedi ei rhestru fel un gyhoeddus dros y blynyddoedd.

“Fyddwn ni byth wedi prynu’r tŷ taswn ni wedi gwybod am hyn. Rydym yn byw drwy hunllef ac yn teimlo’n gwbl ddiymadferth.”

Ymchwiliad

Ar ôl degau o lythyrau ac e-byst gan Mr Wilson i’r cyngor yn gofyn am ragor o atebion, mae’r cyngor wedi ei wahardd rhag cysylltu â nhw am flwyddyn. Mae’r awdurdod hefyd wedi gwrthod trafod cais gan Mr Wilson i adeiladu man glanio hofrennydd ar ei eiddo.

Nawr mae'r cwpl yn galw am ymchwiliad annibynnol mewn i’r ffordd mae’r cyngor wedi ymdrin â’u hachos.

Dywedodd Mr Wilson:  “Y ffordd ymlaen yw cael ymchwiliad annibynnol i weld beth yn union sy’n digwydd gyda Chyngor Sir Ynys Môn. Rhaid cyflwyno’r ffeithiau i gorff annibynnol er mwyn iddyn nhw adolygu’r scenario gyfan.

“Alla’i ddim gweld ffordd arall, da ni wedi trio bob ffordd arall. Rydw i di gofyn dro ar ôl tro - sut ydw i fod i gyrraedd fy eiddo? Ond ges i fyth ateb. A rŵan, maen nhw wedi fy atal rhag cysylltu hefo nhw am ddangos ‘dyfalbarhad annerbyniol’, felly dwi ddim yn cael hyd yn oed siarad hefo nhw bellach. 

“Yn ffodus i mi, mae gen i ffrind agos sydd yn fy helpu, Peter Rogers [cyn aelod o’r Senedd a chyn-gynghorydd Ynys Môn]. Mae’n gwneud mwy o ymholiadau ar fy rhan ac y dyfnach mae o’n ei gloddio, y mwyaf sicr y mae o fod ‘na rhywbeth mawr o'i le o fewn y Cyngor.”

‘Annerbyniol’

Dywedodd Mr Rogers, a oedd yn cynrychioli Mr Wilson ar ward Bro Aberffraw ar Gyngor Môn hyd at 2022:  “Does dim cefnogaeth wedi bod i Mr a Mrs Wilson o gwbl. Mae Gerald yn gymeriad hoffus a chlên sydd yn hawdd i ddelio gydag o, ond mae’r ffordd y mae’r cyngor wedi trin ei wraig ac yntau wedi bod yn warthus. Dyle bod nhw wedi dangos rhywfaint o empathi tuag atyn nhw. Mae eu hymddygiad yn annerbyniol.

“Fe symudais i’r ardal ryw 50 mlynedd yn ôl, a phrynu fferm yn yr un ardal. A rydw i wedi defnyddio’r ffordd yna sawl tro i ymweld â fferm arall. Nes i siarad gyda chontractwyr fferm yn ddiweddar oedd yn arfer mynd i fyny ac i lawr y lôn yn aml, a nid oedd o’n meddwl ei fod yn ffordd breifat. Allwch chi ddim dweud mwyaf sydyn nad ydy hi’n ffordd gyhoeddus.

“Mae'r cyngor wedi bod yn gweithio i gynnal y ffordd dros y blynyddoedd. A allwn i ddim deall pam eu bod nhw wedi rhoi gorchymyn yn gwahardd Gerald rhag cysylltu â nhw. 

"Mae’n scandal, yr holl beth. Mae’n dŷ sydd yn werth cannoedd o filoedd o bunnoedd, ond hefyd yn ddi-werth, oherwydd does dim ffordd i’w gyrraedd.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Mae’r mater yn destun hawliad cyfreithiol yn erbyn y Cyngor ac, yn yr amgylchiadau, ni fydda’n briodol i’r Cyngor wneud sylw ar y mater nac ateb cwestiynau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.