Newyddion S4C

'Hynod siomedig': HSBC UK yn dod â’u gwasanaeth ffôn Cymraeg i ben

08/11/2023
HSBC

Mae’r penderfyniad gan fanc HSBC UK i gau gwasanaeth ffôn yn yr iaith Gymraeg i gwsmeriaid wedi ei alw yn un “hynod siomedig”.

Ddydd Mercher, cysylltodd y banc gydag Aelodau'r Senedd er mwyn rhoi gwybod na fyddent yn darparu llinell ffôn iaith Gymraeg i gwsmeriaid y tu hwnt i 15 Ionawr 2024.

Dywedodd y banc nad oedd y gwasanaeth iaith Gymraeg yn cael ei ddefnyddio yn ddigonol bellach, gyda gostyngiad cyson yn y niferoedd sydd yn ei ddefnyddio.

Yn ôl y banc, 22 o alwadau mae’r llinell yn eu derbyn yn ddyddiol bellach, o gymharu â 18,000 ar y llinellau iaith Saesneg.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Jeremy Miles AS, fod Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, eisoes wedi cysylltu gyda'r banc er mwyn "gweld beth y gellir ei wneud i sicrhau bod y gwasanaeth Cymraeg yn parhau."

Dywedodd Sam Kurtz AS fod “penderfyniad HSBC i beidio â darparu llinell gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg o fis Ionawr ymlaen yn hynod siomedig.” 

Ymddiheuro

Yn y llythyr, mae'r banc yn ymddiheuro am gau’r gwasanaeth, gan ddweud nad oedd y penderfyniad wedi ei gymryd “ar chwarae bach”.

Dywedodd y banc hefyd y byddai modd i gwsmeriaid drefnu i dderbyn galwad yn ôl yn y Gymraeg o fewn tri diwrnod gwaith.

Yn y llythyr, fe ddywedodd Oliemata O’Donoghue, Cyfarwyddwr Gweithredol adran Banc Cyfoeth a Phersonol HSBC UK: “Hoffwn eich sicrhau mai nid ar chwarae bach y cymerwyd y penderfyniad. Rydym yn ymdrechu i deilwra ein gwasanaethau er mwyn cyrraedd gofynion ein cwsmeriaid, ac ar ôl adolygiad manwl o’n llinell ffôn gwasanaeth cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg, rydym wedi canfod nad yw’r llinell hon bellach yn cael ei defnyddio’n llawn.

“Rydym wedi gweld gostyngiad cyson yn y defnydd – rydym yn derbyn 22 o alwadau i’r llinell bob dydd, o gymharu â 18,000 i’n llinellau Saesneg, a dim ond unwaith neu ddwywaith y flwyddyn y mae 73% o ddefnyddwyr y gwasanaeth yn ffonio.

Image
HSBC Cymraeg

“Ar ôl 15 Ionawr, os oes angen i gwsmeriaid ein ffonio, byddant yn dal i dderbyn y gwasanaeth y maent wedi arfer ag ef, ond yn Saesneg. Bydd ein hasiantaethau Saesneg eu hiaith yn gallu cynorthwyo gydag unrhyw anghenion bancio cwsmeriaid.

“Rydym yn cydnabod mai bancio yn Gymraeg yw eu dewis o hyd i rai cwsmeriaid, felly gallwn drefnu galwad yn ôl yn Gymraeg, o fewn tri diwrnod gwaith, i helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd ganddynt. Er ein bod yn deall nad dyma yw eu dewis cyntaf, rydym wedi cadarnhau bod pob cwsmer yn gallu bancio yn Saesneg.

“Hoffem eich sicrhau y bydd yr holl wasanaethau Cymraeg eraill a gynigiwn yn parhau yn eu lle, gan gynnwys cydweithwyr sy’n siarad Cymraeg yn hanner ein canghennau Cymreig, yn ymateb i ohebiaeth cwsmeriaid yn Gymraeg, a rhai o’n canghennau yng Nghymru yn cynnig gwasanaeth cyfieithu llawn.

“Mae'n ddrwg gennyf ysgrifennu atoch gyda'r hyn rwy'n gwybod bydd yn newyddion siomedig ac rwyf am eich sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i wasanaethu ein cwsmeriaid ym mhob rhan o'r DU.”

‘Hynod siomedig'

Mewn ymateb, dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg: “Mae’n fater o siom fod HSBC am ddirwyn y gwasanaeth ffôn Cymraeg i ben ac mae’r cynnig o alwad yn ôl o fewn tri diwrnod gwaith yn y Gymraeg yn golygu eu bod yn darparu gwasanaeth israddol i siaradwyr Cymraeg.

“Yn ein trafodaethau gyda HSBC rydym wedi bod yn cynnig cyngor am sut i recriwtio  siaradwyr Cymraeg a’u hannog i hyrwyddo y llinell Gymraeg yn well ond does dim tystiolaeth fod hynny wedi digwydd sydd eto yn siomedig.

“Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at HSBC yn gofyn am gyfarfod buan i drafod y sefyllfa gan obeithio y byddant yn barod i ystyried opsiynau eraill yn hytrach na dirwyn y gwasanaeth pwysig hwn i ben.”

Dywedodd  Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: "Rwy'n siomedig iawn o glywed y newyddion yma. Mae cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn flaenoriaeth i mi, ac rwyf am i ni gael cynifer o gyfleoedd â phosibl i ddefnyddio'r Gymraeg yn ein bywydau bob dydd.

"Byddaf yn trafod y mater hwn gyda Chomisiynydd y Gymraeg, sydd eisoes wedi ysgrifennu at HSBC, i weld beth y gellir ei wneud i sicrhau bod y gwasanaeth Cymraeg yn parhau, a'i fod yr un mor hawdd ei gyrchu yn y ddwy iaith."

Dywedodd Siân Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith: “Mae’r penderfyniad yma’n hynod siomedig, ond yn lle cwyno neu ofyn am eglurhad yn unig, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau ei bod yn ddyletswydd cyfreithiol bod rhaid i fanciau a chyrff eraill yn y sector breifat fel archfarchnadoedd  i ddefnyddio’r Gymraeg a chynnig gwasanaeth Cymraeg o’r un statws ac ansawdd a’u gwasanaeth Saesneg.

“Mae yna lu o enhreifftiau eraill ar y stryd fawr ac yn ein bywydau o ddydd i ddydd lle nad yw’r Gymraeg ar gael ac nid oes cyfle i’w defnyddio. Mae Mesur y Gymraeg 2011 bellach wedi hen ddyddio ac nid yw’n ddigon effeithiol.  Mae penderfyniad HSBC i ddod a therfyn i’w gwasanaeth ffôn Cymraeg yn brawf pellach bod angen deddfwriaeth fwy cadarn i sicrhau  a hybu ein hawliau.”

'Peryglus'

Dywedodd Mr Kurtz AS, Gweinidog cysgodol dros y Gymraeg ar ran y Ceidwadwyr : “Gyda banciau’r stryd fawr yn cau eu canghennau, gan adael bylchau yn ein strydoedd mawr, mae bancio ffôn wedi bod yn achubiaeth i nifer o gwsmeriaid.

“I fanc sy’n gweithredu’n fyd-eang mewn nifer o ieithoedd, rwy’n annog HSBC yn gryf i ailystyried eu penderfyniad ac i gadw darpariaeth Gymraeg ar gael i gwsmeriaid yn ôl yr angen.”

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Gymraeg, Heledd Fychan AS, a llefarydd yr Adran dros Ddiwylliant yn San Steffan, Ben Lake AS: “Mae hyn yn ergyd enfawr i’w cwsmeriaid yng Nghymru yn enwedig eu cwsmeriaid hŷn, a’r rhai sydd ddim â mynediad i dechnoleg ddigidol. 

“Mae addewid y banc i 'drefnu galwad yn ôl yn Gymraeg, o fewn 3 diwrnod gwaith' nid yn unig yn ansensitif i'r pwysau ariannol y bydd rhai pobl yn eu hwynebu, ond hyn yn beryglus.  

“Mae angen i HSBC wyrdroi’r penderfyniad hwn, a gwneud mwy i hyrwyddo a darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.”

Dywedodd Jack Sargeant, Aelod o’r Senedd dros y blaid Lafur: “Mae’n hynod siomedig bod HSBC UK wedi cyhoeddi na fyddan nhw yn darparu llinell cwsmeriaid Gymraeg bellach. Mae'r Gymraeg yn iaith sydd yn fyw ac yn brif ddewis i sawl un wrth gysylltu â gwasanaethau bancio.

“Mae cau canghennau eisoes wedi cyfyngu ar wasanaethau iaith Gymraeg i gwsmeriaid yng Nghymru ac mi fydd hyn yn cyfyngu ar y profiad bancio fwy fyth. Fe ddylai HSBC ail-ystyried y penderfyniad ar unwaith."

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.