Newyddion S4C

Gwaharddiad ar nwy chwerthin yn dod i rym

08/11/2023
s4c

Mae bod ym meddiant nwy chwerthin bellach yn anghyfreithlon, os yn ei ddefnyddio yn benodol er mwyn teimlo'n hapus.  

Gallai'r rhai sy'n cael eu dal yn ei ddefnyddio droeon wynebu hyd at ddwy flynedd yn y carchar.

A gallai'r rhai sy’n cyflenwi neu werthu ocsid nitraidd sydd hefyd yn cael ei alw'n nwy chwerthin wynebu hyd at 14 mlynedd o dan glo. 

Mae’r gwaharddiad, sy'n rhan o gynllun gweithredu ymddygiad gwrthgymdeithasol Llywodraeth y DU, yn gwneud ocsid nitraidd yn gyffur Dosbarth C o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971.

Ond bydd yn dal yn bosibl defnyddio'r nwy pan fo rhesymau meddygol, er enghraifft er mwyn lleddfu poen yn ystod genedigaeth. A dyw e ddim wedi ei wahardd yn y maes pecynnu bwyd, er enghraifft caniau a phecynnau creision. 

Ni fydd angen trwyddedau i gludo ocsid nitraidd, ond bydd angen i ddefnyddwyr ddangos eu bod ym meddiant y nwy yn gyfreithlon ac nad ydynt yn bwriadu ei anadlu ar gyfer dibenion personol.

Dywedodd y Gweinidog Troseddau a Phlismona Chris Philp: “Heddiw, rydyn ni’n anfon neges glir at bobl, yn enwedig pobl ifanc, bod cam-drin ocsid nitraidd nid yn unig yn beryglus i’w hiechyd, ond mae hefyd yn anghyfreithlon."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.