Newyddion S4C

Ysgrifennydd Tramor yn cefnogi galwadau am heddwch dros dro er mwyn lleddfu'r sefyllfa ddyngarol yn Gaza

08/11/2023
Gaza UN

Mae’r Ysgrifennydd Tramor wedi dweud bod Llywodraeth y DU yn cefnogi galwadau ar i'r ymladd ddod i ben am y tro er mwyn sicrhau fod cymorth dyngarol yn cyrraedd trigolion Gaza.

Mae James Cleverly yn Japan ar gyfer trafodaethau Gweinidogion Tramor Gwledydd yr G7.  Ond wrth gael ei holi gan newyddiadurwyr am y sefyllfa yn y Dwyrain Canol, dywedodd Mr Cleverly y byddai cadoediad, a fyddai'n drefniant mwy cadarn, yn amharu ar allu Israel i amddiffyn ei hun.

“Nid ydym wedi gweld na chlywed dim byd o gwbl sy’n gwneud i ni gredu bod arweinyddiaeth Hamas o ddifrif am gadoediad,” meddai.

Daw ei sylwadau oriau ar ôl i aelod o fainc flaen Llafur, Imran Hussain, ymddiswyddo o’i rôl fel gweinidog cysgodol. Mae hynny, meddai yn ei alluogi i ymgyrchu dros gadoediad.

Mae Aelod Seneddol Dwyrain Bradford yn anfodlon â safbwyntiau arweinydd ei blaid Syr Keir Starmer. 

Senedd Cymru i drafod cadoediad

Yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher, bydd gwleidyddion yn trafod galwadau am "gadoediad ar unwaith" yn y Dwyrain Canol.

Plaid Cymru sydd wedi cyflwyno'r cynnig. Wedi'r drafodaeth, bydd pleidlais rydd i aelodau meinciau cefn Llafur tra bydd gweinidogion yn ymatal eu pleidlais.

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, eisoes wedi mynegi barn debyg i un Syr Keir Starmer, gan alw am saib dyngarol yn hytrach na chadoediad.

Protest Llundain

Yn y cyfamser mae Comisiynydd Heddlu Llundain, Syr Mark Rowley, wedi nodi bod modd i orymdaith gael ei chynnal o blaid pobl Palesteina yn Llundain ddydd Sadwrn. Roedd e o dan bwysau gan wleidyddion gan gynnwys y Prif Weinidog Rishi Sunak i geisio rhwystro'r brotest oherwydd ei fod yn benwythnos Y Cofio.  

Yn ôl Syr Mark Rowley, dyw'r trothwy i gyfiawnhau cais i wahardd yr orymdaith ddim wedi ei gyrraedd ar sail cudd-wybodaeth ynghylch y perygl o anhrefn difrifol. 

“Mae’r cyfreithiau sy’n cael eu creu gan y Senedd yn glir. Nid oes unrhyw bŵer absoliwt i wahardd protest, felly bydd protest y penwythnos hwn,” meddai. 

Dywedodd bod defnyddio grymoedd i rwystro protestiadau yn “hynod o brin” a bod yn rhaid eu cadw ar gyfer achosion lle mae cudd-wybodaeth yn  awgrymu “bygythiad gwirioneddol” o anhrefn difrifol.

“Pe bai hyn yn newid, rydym wedi bod yn glir y byddwn yn defnyddio grymoedd ac amodau sydd ar gael i ni i ddiogelu lleoliadau a digwyddiadau sydd o bwys, ar bob cyfrif,” meddai Syr Mark.

Yn wreiddiol, roedd Heddlu'r Met wedi annog trefnwyr yr orymdaith i “ailystyried ar frys” y digwyddiad ddydd Sadwrn oherwydd risg cynyddol o drais, ond mae’r trefnwyr wedi gwrthod ei gohirio.

'Mater i'r heddlu'

Dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog mai mater i Heddlu'r Met oedd penderfynu a ddylid gwahardd yr orymdaith, ond ychwanegodd y byddai’r Llywodraeth yn “ystyried yn ofalus” unrhyw gais i’w hatal.

“Nid yw’r Prif Weinidog ei hun yn credu ei bod yn iawn i’r math yma o brotestiadau gael eu trefnu ar Ddiwrnod y Cadoediad,” meddai’r llefarydd.

“Mae’n credu bod hynny’n bryfoclyd ac yn amharchus.”

Mynnodd y glymblaid o grwpiau, sy’n cynnwys Ymgyrch Undod Palestina, Stop the War a Chymdeithas Fwslemaidd Prydain, y byddan nhw’n bwrw ymlaen â’r brotest sy’n galw am gadoediad ar unwaith rhwng Israel a Hamas ar Lain Gaza.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU yn credu bod yna dri pherson Prydeinig yn dal i gael eu cadw'n wystlon gan Hamas ar Lain Gaza.

Mae mwy na 100 o ddinasyddion y DU a oedd yn y diriogaeth pan ddechreuodd y rhyfel wedi llwyddo i ffoi oddi yno i'r Aifft.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.