Gwahardd dyn a dynes rhag cadw anifeiliaid ar ôl esgeuluso mwnci
Mae dyn a dynes o Rondda Cynon Taf wedi eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid am 10 mlynedd, ar ôl iddyn nhw fethu â rhoi gofal addas i fwnci bychan marmoset.
Roedd y mwnci o'r enw Precious yn anifail anwes iddyn nhw, ac fe gafodd broblemau difrifol gyda'i esgyrn am na chafodd y gofal priodol.
Bu'n rhaid i filfeddygon ddifa'r creadur er mwyn ei atal rhag dioddef rhagor o boen.
Yn ôl elusen yr RSPCA, doedd ei berchnogion, Laura Pittman, 51 a Jonathan Leighton Phillips, 53 o bentref Glynrhedynog ddim wedi cynnal ymchwil er mwyn darganfod sut i ofalu am y mwnci, ac roedden nhw wedi rhoi bwyd anaddas iddo.
Yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, plediodd y ddau yn euog i ddwy drosedd yn ymwneud â'r Ddeddf Lles Anifeiliaid.
Yn ogystal â chael eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid, mae'r ddau wedi cael gorchymyn cymunedol am 12 mis. Cafodd y ddau hefyd ddirwy o £350 yr un, a bydd angen iddyn nhw dalu costau pellach sydd bron yn gyfanswm o £2,000.
Dywedodd pennaeth bywyd gwyllt yr RSPCA, Dr Ros Clubb : “Mae hwn yn achos torcalonnus, ac yn sicr, dioddefodd Precious boen difrifol.
"Yn anffodus, rydym yn poeni fod llawer o fwncïod marmoset fel Precious yn dioddef y tu ôl i ddrysau caeedig, am nad yw bobl yn gwybod sut i ofalu amdanyn nhw. Anifeiliaid gwyllt ydyn nhw, na ddylai fod yng nghartrefi bobl."