Cyhoeddi rhybudd oherwydd pwysau ‘digynsail’ ar adran achosion brys ysbyty mwyaf Cymru
Mae bwrdd iechyd wedi cyhoeddi rhybudd oherwydd pwysau ‘digynsail’ ar adran achosion brys ysbyty mwyaf Cymru.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro bod uned achosion brys Ysbyty Athrofaol Cymru yn wynebu “galw andwyol sylweddol a pharhaus ar wasanaethau”.
Maen nhw’n galw ar bobl i fynd i’r uned achosion brys os ydi eu “cyflwr yn bygwth bywyd” yn unig.
Mae’r amgylchiadau yn cynnwys:
- Anawsterau anadlu difrifol
- Poen difrifol neu waedu
- Poen yn y frest neu amheuaeth o strôc
- Anafiadau trawma difrifol e.e. damwain car
Ychwanegodd y bwrdd iechyd fod y rhybudd o ganlyniad i “bwysau gweithredol y gaeaf, ynghyd ag argaeledd gwelyau cyfyngedig o ganlyniad i gyfnodau hir cyn rhyddhau cleifion”.
Doedd dim amhariad ar apwyntiadau dewisol a chlinigol sy’n parhau i weithredu fel arfer “ ar hyn o bryd,” medden nhw.
“Fodd bynnag, bydd y Bwrdd Iechyd yn adolygu’r sefyllfa’n gyson a bydd yn cyhoeddi diweddariadau ar y sefyllfa drwy gydol y dydd,” medden nhw.
‘Cynnal’
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol yng Nghymru bod y rhybudd yn “gynrychioladol” o’r argyfwng o fewn y gwasanaeth iechyd yn ehangach.
Awgrymodd llefarydd y blaid ar iechyd, Russell George, y gallai bod angen galw'r fyddin i mewn.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisoes gweld gwasanaeth iechyd sy’n cael ei gynnal yn ariannol ac sy’n ddibynadwy,” meddai.
Os nad yw eich cyflwr yn bygwth bywyd a’ch bod yn teimlo’n sâl neu’n ansicr o’ch symptomau ewch i Wiriwr Symptomau GIG 111 Cymru am gefnogaeth bellach.
Fel arall, ffoniwch 111 lle bydd eich cyflwr yn cael ei asesu a chynigir amser apwyntiad i chi (lle bo angen).