Newyddion S4C

RAAC: Gwaith ar goncrid diffygiol Ysbyty Llwynhelyg i barhau nes 2025

07/11/2023
Llwynhelyg

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyhoeddi y bydd y gwaith o drwsio a diogelu concrid diffygiol yn Ysbyty Llwynhelyg yn parhau nes o leiaf gwanwyn 2025.

Yn ôl ym mis Awst, fe ddatgelodd Newyddion S4C fod rhan o'r ysbyty yn Hwlffordd wedi cau oherwydd pryderon am Goncrid Awyrog Awtoclaf Cyfnerth (RAAC) yn nenfwd yr adeilad.

Maen’r bwrdd iechyd bellach wedi cyhoeddi na fydd pob rhan o’r ysbyty yn gallu derbyn cleifion allanol nes haf 20204, ac y bydd rhannau o’r gwaith ar yr adeilad yn parhau nes Ebrill 2025.

“Er bod disgwyl i dair ward ail-agor erbyn y Nadolig, bydd gwaith yn parhau dros y flwyddyn ariannol hon a’r flwyddyn ariannol nesaf i fynd i’r afael â’r planciau argyfyngus a risg uchel,” meddai llefarydd ar ran y bwrdd iechyd.

“Disgwylir i’r holl wardiau yr effeithir arnynt gael eu hailagor erbyn mis Ebrill 2024 tra bydd gwaith adfer ar y lloriau gwaelod yn parhau i mewn i’r flwyddyn ariannol nesaf (Ebrill 2025).

Mae RAAC yn ddeunydd a ddefnyddiwyd yn gyffredin wrth godi adeiladau rhwng y 1960au a'r 1990au.

Mewn adroddiad ym mis Medi, dywedodd y bwrdd fod 56 o’r planciau RAAC ar draws dwy ward yn “risg critigol” a hynny’n golygu bod angen “gwaith ar frys i’w hadfer” a bod angen eu cynnal gyda phropiau ac atal pobol rhag mynd ar eu cyfyl.

Dywedodd yr adroddiad mai cau holl wardiau ysbyty yn Sir Benfro dros dro fyddai'r "unig ffordd o liniaru'r risg yn llawn" rhag effaith planciau concrit diffygiol RAAC yn “methu”. 

Roedd yr adroddiad hefyd yn amcangyfrif cost o £12.2m erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2024/25 am raglen waith oedd yn codi o effaith RAAC.

‘Adleoli’

Dywedodd y Bwrdd Iechyd ddydd Mawrth y bydd ymgynghoriadau cleifion allanol yn Ysbyty Llwynhelyg a gafodd eu lleihau o ganlyniad i ddarganfod y planciau concrit diffygiol nawr yn ailddechrau mewn lleoliadau eraill ledled Sir Benfro.

Caeodd y bwrdd adeilad Cleifion Allanol A yn ysbyty Hwlffordd er mwyn cwblhau gwaith arolygu hanfodol gan arwain at ostyngiad o 50% mewn apwyntiadau.

“Er bod pob ymdrech wedi’i gwneud i darfu cyn lleied â phosibl, cafodd llawer o wasanaethau cleifion allanol eu hadleoli ledled ardal y bwrdd iechyd, tra bu tîm rheoli’r ysbyty yn gweithio i ddod o hyd i lety addas yn Sir Benfro,” meddai llefarydd ar ran y bwrdd iechyd.

“Mae’r holl wasanaethau Cleifion Allanol y mae gwaith RAAC yn effeithio arnynt wedi dod o hyd i gartrefi newydd, ond dros dro, hyd nes y bydd yr adeilad yn barod i dderbyn cleifion eto ond ni ddisgwylir hyn tan Haf 2024.”

‘Pryder’

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn falch iawn bod y gwasanaethau Cleifion Allanol wedi cael eu hadleoli mor gyflym wrth i ni weithio i atgyweirio ardaloedd clinigol cleifion allanol yr effeithir arnynt gan RAAC yn Llwynhelyg.

“Gwyddom fod y gwaith arolygu a’r camau adfer wedi achosi cryn aflonyddwch a phryder ymhlith aelodau o’n cymuned ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

“Hoffai’r bwrdd iechyd ddiolch i staff ysbytai, cleifion ac ymwelwyr am eu hamynedd a’u dealltwriaeth dros y misoedd diwethaf tra rydym wedi bod yn gwneud y gwaith hanfodol hwn.”

Dywedodd Mr Carruthers y byddai'r bwrdd iechyd yn ysgrifennu at gleifion i gadarnhau dyddiad, amser a lleoliad apwyntiadau neu ffonio cleifion y mae eu hapwyntiadau ar fin digwydd.

“Rydym yn annog pawb i ddarllen y llythyr apwyntiad yn ofalus a nodi unrhyw newid lleoliad, gan y gallai apwyntiadau a gynhaliwyd yn flaenorol yn Ysbyty Llwynhelyg nawr gael eu cynnal ar safle Gofal Iechyd Cymunedol,” meddai.

“Cofiwch adael digon o amser ar gyfer eich taith gan fod parcio yn eithaf cyfyngedig yn rhai o’r lleoliadau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.