Dau ffrind 18 oed wedi marw mewn damwain ar eu ffordd adref o'r gwaith
Bu farw dau berson 18 oed mewn damwain ar eu ffordd adref o weithio mewn bwyty yn Sir Donegal yn Iwerddon.
Mae'r ddau wedi’u henwi’n lleol fel Alana Harkin a Thomas Gallagher.
Dywedodd y Gardi fod Ms Harkin a Mr Gallagher, oedd yn eu harddegau hwyr, wedi marw yn y gwrthdrawiad yn ardal Gleneely yn oriau mân y bore ddydd Llun.
Cafodd ail ddyn, oedd hefyd yn ei arddegau hwyr, ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau na chredir eu bod yn rhai sy’n peryglu ei fywyd.
Roedd un car yn rhan o’r digwyddiad ar yr R238 yn Terrawee am tua 00.30.
“Cafodd dau oedd yn y car, dynes a dyn yn eu harddegau hwyr, eu canfod yn farw yn y fan a’r lle ac mae eu cyrff wedi cael eu symud i Ysbyty Athrofaol Letterkenny,” meddai llefarydd ar ran y Garda.
“Mae trydydd person yn y car, dyn yn ei arddegau hwyr, wedi cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Letterkenny i gael triniaeth am anafiadau y credir nad ydynt yn rhai sy’n bygwth bywyd.”
Llun: Alanna Harkin (Cyfryngau cymdeithasol)