Dim streiciau pellach gan staff prifysgolion yn y flwyddyn newydd
Ni fydd staff prifysgolion yn cynnal streiciau pellach yn y flwyddyn newydd wedi i bleidlais fethu â chyrraedd y trothwy cyfreithiol er mwyn caniatáu gweithredu diwydiannol.
Dywedodd Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU) fod mwy na dau o bob tri o’u haelodau a bleidleisiodd yn cefnogi streiciau pellach yn yr anghydfod dros gyflogau ac amodau gwaith – a'r rheiny’n cynrychioli staff mewn 140 o brifysgolion ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.
Roedd 75% o’r rheiny hefyd yn cefnogi dulliau eraill o streicio, yn ôl yr undeb.
Ond ni fydd staff yn streicio bellach gan mai 43% yn unig o'r aelodau a bleidleisiodd, gan fethu â chyrraedd y trothwy cyfreithiol, sef 50%.
Mae cyfres o streiciau wedi’u cynnal gan yr UCU dros y blynyddoedd diwethaf, a hynny oherwydd anghydfod dros dâl ac amodau gweithio, ac anghydfod dros bensiynau.
Ym mis Medi, cynhaliodd staff mewn 42 o brifysgolion ledled y DU streiciau dros gyfnod o bum niwrnod.
Dros gyfnod yr haf, bu aelodau’r UCU hefyd yn gweithredu drwy wrthod marcio gwaith terfynol rhai myfyrwyr ar ddiwedd eu gradd.