McDonalds yn ennill ffrae gynllunio dros arwyddion Cymraeg

Mae McDonalds wedi ennill ffrae gynllunio gyda Chyngor Gwynedd dros ddefnydd o sgrîns dwyieithog yn un o’i bwytai.
Cafodd cynlluniau i newid arwyddion y tu allan i fwyty Caernarfon eu hatal y llynedd, ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad oedd yr arwyddion newydd yn bodloni gofynion ieithyddol y cyngor.
Ond bellach mae'r arwyddion wedi cael eu cymeradwyo ar ôl i McDonalds ailgyflwyno’r cais, gyda swyddogion cynllunio Cyngor Gwynedd yn fodlon gyda’r cynlluniau diweddaraf.
Cafodd y cynlluniau gwreiddiol eu gwrthod ar y sail nad oedd yr arwyddion yn cynnig gwasanaeth dwyieithog i gwsmeriaid, gyda McDonalds yn dadlau fod arwyddion Cymraeg eisoes yn eu lle mewn rhannau eraill o’r bwyty.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu’r newid, gan ddadlau y dylid McDonalds gynnig arwyddion sy’n “gwbl ddwyieithog”.
Darllenwch y stori’n llawn yma.