Newyddion S4C

Tad 42 oed o Abertawe yn diolch am 'ofal gwych' wedi iddo ddioddef trawiad ar y galon

06/11/2023
Paul Whapham

Mae tad a gafodd drawiad ar y galon tra allan yn rhedeg wedi diolch i staff Ysbyty Treforys am eu gofal “gwych”.

Roedd Paul Whapham o Dreforys, ger Abertawe, allan yn rhedeg yn gynnar un bore pan ddechreuodd deimlo poen difrifol yn ei frest.

Yn Brif Swyddog Gweithredol Hoci Cymru, mae Paul, 42 oed, yn rhedeg dwy neu dair gwaith yr wythnos. 

“Es i redeg yn gynnar yn y bore, fel rydw i’n ei wneud fel arfer a thua phum munud i mewn roedd gen i boen enfawr yn fy mrest,” meddai Paul. 

“Roedd fy mrest yn teimlo’n dynn ac yna roeddwn ar fy nwylo a’m pengliniau.

“Roedd y boen yn anhygoel.”

Fe wnaeth lwyddo i gysylltu gyda’i wraig, Laura, cyn iddi fynd ag o yn syth i'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Treforys.

Dywedodd Mr Whapham: “Llwyddais i ddefnyddio fy oriawr i ffonio fy ngwraig. Yn ffodus, dim ond pum munud i ffwrdd oeddwn i felly aethon ni yn syth i'r ysbyty."

Ar ôl cael ei asesu yn yr Adran Achosion Brys, cafodd Paul driniaeth ar y rhydweli oedd wedi’i rhwystro yn ei galon.

Ychwanegodd: “Daeth meddygon a nyrsys draw ata i a sylweddoli’n gyflym fy mod yn cael trawiad ar y galon.

"Fe wnaethon nhw ddweud wrthai hefyd fod gen i oedema ysgyfeiniol hefyd, lle'r oedd fy ysgyfaint yn llenwi â hylif

“Oherwydd ei fod wedi digwydd yn gynnar yn y bore, bu’n rhaid i staff ddod i mewn o gartref i wneud y driniaeth.”

Cafodd stent wedi'i gosod hefyd. 

Diolchgar

Bu'n rhaid i Mr Whapham dreulio y chwe diwrnod canlynol yn yr uned goronaidd cyn cael dychwelyd adref.

Bydd yn mynychu gwasanaeth ôl-ofal yn yr ysbyty fel rhan o'i wellhad.

Mae wedi diolch i staff am y gofal a gafodd yn ystod ei gyfnod yn yr ysbyty.

“Roedd yn dipyn o sioc gan nad ydw i’n rhy drwm ac rydw i’n ceisio cadw fy hun yn heini felly doedd gen i ddim ffactorau risg,” meddai.

“Roedd yn sioc i bawb mewn gwirionedd, gan gynnwys fy nheulu. Roedd y gofal a gefais yn wych. Ni allaf ganmol digon ar y staff.

“Rwyf hefyd yn wirioneddol ddiolchgar i fy ngwraig am ddod â mi i’r ysbyty oherwydd roedd yn sioc iddi hi hefyd.

“Mae’n galonogol gwybod pan fyddwch chi angen yr Adran Achosion Brys, mae’r staff yno i chi.

“Roedd y staff yno yn wych, ac rydw i eisiau dweud diolch yn fawr i bob un ohonyn nhw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.