Newyddion S4C

'Diffyg gofal': Merch o Gaerdydd yn gorfod ail sefyll blwyddyn ysgol oherwydd mislif trwm

06/11/2023
Keira Creedon

Mae merch 17 oed o Gaerdydd sydd yn dioddef o fislif hynod o drwm yn dweud bod y diffyg trafodaeth am ei effaith ar iechyd meddyliol a chorfforol menywod yn "warthus".

Dywedodd Keira Creedon sy'n fyfyrwraig chweched dosbarth ei bod hi'n gorfod ail-sefyll blwyddyn ysgol yn sgil yr effaith y mae'r mislif wedi ei gael ar ei phresenoldeb a'i hiechyd meddwl. 

Mae'n dweud ei bod yn gorfod gwisgo sawl eitem ar gyfer y mislif ar y tro, eu cuddio i fyny ei llawes a'u newid nhw bob 30 munud.

Dywedodd Keira ei bod hi'n teimlo bod yna ddiffyg dealltwriaeth o fewn y gwasanaeth iechyd am sut mae'r mislif yn effeithio ar iechyd menywod, a'i fod wedi "cymryd drosodd fy mywyd yn llwyr".

"Dwi'n meddwl bod y diffyg gofal am iechyd menywod yn warthus," meddai.

Derbyniodd gwnsela am ei phroblemau iechyd meddwl ond er bod y cwnsleriaid yn "hyfryd" doedd gyda nhw "ddim syniad beth o'n i'n siarad amdano," meddai.

"Ro'n i'n egluro fy mod yn teimlo bod y mislif yn effeithio ar fy iechyd meddwl ac roedden nhw'n ceisio rhoi rhesymau eraill pam o'n i'n teimlo'n isel," meddai.

“Fe wnaeth i mi deimlo eu bod yn fy ngwthio i ffwrdd o’r broblem.”

Mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi cael cais am ymateb.

'Ysbrydoliaeth'

Dywedodd Keira bod ei mislf wedi effeithio ar ei graddau yn yr ysgol ac erbyn blwyddyn 12 roedd ei phresenoldeb wedi syrthio i 70%, meddai.

Cafodd bwl o banig ddiwrnod cyn ei arholiadau AS, ac fe wnaeth ei mam ffonio ei hysgol i ddweud na fyddai ei merch yn sefyll yr arholiadau.

Cyn hynny "ges i erioed y cyfle i egluro i fy athrawon, oedd yn ddynion yn bennaf, ac roeddwn i'n teimlo mor chwithig," meddai.

Mae Keira bellach yn gobeithio bod yn athrawes Saesneg a chael trafodaethau agored gyda myfyrwyr am y mislif a chwalu'r stigma o amgylch ei chyflwr.

Mae bellach wedi siarad am ei phrofiad mewn ysgol uwchradd arall i godi ymwybyddiaeth.

"Wrth edrych yn ôl, ges i erioed wasanaeth yn yr ysgol am y mislif, a phan oedden ni'n siarad amdanyn nhw, doedd y bechgyn ddim yna," meddai.

"Dwi eisiau bod yn ysbrydoliaeth i ferched ifanc sy'n teimlo eu bod nhw ar eu pen eu hunain gyda'r mislif.

"Os fyddai'n athrawes un diwrnod, dwi eisiau cael bocs yn y dosbarth gyda chynnyrch y mislif i'w gwneud hi'n haws i blant ac i leihau'r stigma."

'Colli ffrindiau'

Roedd mislif trwm Keira hefyd wedi effeithio ar ei gallu i weithio. Dywedodd Keira ei bod hi wedi llewygu wrth weithio yn McDonald's oherwydd y boen.

Dywedodd ei bod hi hefyd yn teimlo bod ei phroblemau gyda'r mislif wedi effeithio ar gyfeillgarwch gyda ffrindiau.

"Dwi wedi colli cymaint o ffrindiau oherwydd hyn - dwi wedi gorfod canslo cynlluniau ar sawl achlysur," meddai.

"Mae yna gymaint o fenywod sydd wedi aberthu rhannau o'u bywyd oherwydd y mislif, sydd ddim yn iawn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.