Newyddion S4C

Crusaders yn defnyddio'r Gymraeg wrth groesawu Leigh Halfpenny i Seland Newydd

05/11/2023
Leigh Halfpenny

Mae tîm rygbi Crusaders yn Seland Newydd wedi cyhoeddi yng Nghymraeg fod cyn-gefnwr Cymru, Leigh Halfpenny, yn ymuno â'r clwb ar gyfer tymor 2024.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd y Crusaders: “Mae’r Crusaders yn hynod falch i gyhoeddi fod y cefnwr chwedlonol o Gymru , Leigh Halfpenny, yn ymuno â’r tîm ar gyfer tymor 2024. Croeso Leigh! Edrychwn ymlaen yn fawr i dy groesawu i Christchurch.”

Fe chwaraeodd Halfpenny ei gêm olaf dros ei wlad yn y fuddugoliaeth yn erbyn y Barbariaid yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn ar ôl ennill 101 o gapiau Cymru, ac wedi cynrychioli’r Llewod.

Wrth arwyddo cytundeb am flwyddyn, dywedodd Halfpenny: “Rydw i wastad wedi gwylio Super Rugby a’r Crusaders yw’r tîm rydw i wedi’i ddilyn erioed.

“Rwy’n hynod ddiolchgar i gael y cyfle i ymuno ag un o glybiau gorau’r byd ac ni allaf aros i gwrdd â phawb.

“Ni allai Rob Penney a’i dîm fod wedi bod yn fwy croesawgar ac rwy’n teimlo’n anrhydedd mawr i fod yn ymuno â nhw.

“Rydw i wastad wedi caru’r amser rydw i wedi’i dreulio yn Seland Newydd ar daith. Mae’n genedl rygbi angerddol ac rydw i wastad wedi cael fy ngwneud i deimlo’n gartrefol iawn yno. Mae fy nheulu a minnau’n gyffrous iawn am y symud.”

Mae’r Crusaders wedi eu lleoli yn ninas Christchurch ar ynys y de yn Seland Newydd.

Nhw yw’r tîm mwyaf llwyddiannus yn hanes cystadleuaeth Super Rugby ac wedi ennill y tlws 12 o weithiau.

Roedd cyn-asgellwr Cymru a hyfforddwr tîm dan 20 Cymru wedi treulio cyfnod fel un o hyfforddwyr y Crusaders. 

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.