Dyn wedi ei arestio ar ôl dal plentyn fel gwystl am 18 awr ym maes Awyr Hamburg
Mae'r heddlu yn yr Almaen wedi arestio dyn ar ôl iddo ddal plentyn pedair oed fel gwystl am 18 awr ym maes awyr Hamburg.
Fe wnaeth dyn arfog yrru drwy rwystrau diogelwch y maes awyr nos Sadwrn gyda phlentyn pedair oed yn y car, cyn parcio o dan awyren ar y llain.
Yn ôl adroddiadau, roedd y dyn 35 oed wedi cymryd ei merch pedair oed.
Roedd yr heddlu yn credu fod anghydfod gwarchodaeth yn wraidd i’w weithred.
Yn ôl yr heddlu, roedd y dyn wedi saethu arf i’r awyr ddwywaith a thaflu poteli tanllyd o’r cerbyd, yn ystod y digwyddiad.
Ond fe ddaeth y sefyllfa i ben prynhawn ddydd Sul, wrth i'r dyn droi ei hun i mewn i'r heddlu, cyn cael ei arestio. Ni oedd y ferch wedi ei hanafu.
Cafodd sawl hediad i mewn ac allan o'r maes awyr eu hamharu oherwydd y digwyddiad.