Newyddion S4C

Rhybudd llifogydd dal mewn grym ar gyfer canolbarth a de Cymru

05/11/2023
Rhybudd llifogydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi bod rhybudd llifogydd yn dal mewn grym ar gyfer ardaloedd yng nghanolbarth a de Cymru.

Daw wedi rhybuddion am law trwm yn dilyn Storm Ciarán.

Mae rhybudd llifogydd coch, 'angen gweithredu ar frys' mewn grym o hyd ar gyfer afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod. 

Mae rhybudd llifogydd 'byddwch yn barod' mewn grym ar gyfer dalgylchoedd afonydd yn ne Sir Benfro a rhannau isaf dalgylch afon Teifi yng Ngheredigion.

Nos Sadwrn fe gyhoeddwyd rhybuddion melyn ar gyfer Nant-y-fendrod a Nant Brân yn ardal Abertawe ac afon Gwy ym Mhowys.

Ddydd Sul cyhoeddwyd rhybudd melyn ar gyfer dalgylch Efyrnwy yng ngogledd Powys ac Ewenni yng ngorllewin Bro Morgannwg.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhybuddio bod disgwyl llifogydd ar dir a ffyrdd isel yn yr ardaloedd yma. 

Dywed CNC bod disgwyl i lefelau afonydd fod yn uwch na'r arfer a bod angen i bobl gymryd gofal.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.