Newyddion S4C

'Heriau tebyg' gan y Gymraeg a iaith frodorol Seland Newydd medd cerddorion

05/11/2023

'Heriau tebyg' gan y Gymraeg a iaith frodorol Seland Newydd medd cerddorion

Mae heriau “tebyg” sy’n wynebu’r iaith Gymraeg a iaith frodorol te reo Māori Seland Newydd wedi cynnig cyfle i gerddorion y ddwy wlad “uniaethu,” medd artistiaid. 

Fel rhan o brosiect sy’n ymchwilio i bwysigrwydd ieithoedd lleiafrifol yn y byd cerddorol, mae’r band Cymraeg CHROMA ac academyddion o Gymru wedi teithio i Aotearoa/Seland Newydd. 

Daw’r ymchwil fel rhan o Brosiect Pūtahitanga gan Brifysgol Caerdydd, FOCUS Wales a Phrifysgol Waikato yn Seland Newydd – ac mae'n gyfle i artistiaid o'r ddwy wlad i ddathlu iaith eu mamwledydd. 

Yn ôl aelodau band CHROMA, mae’r heriau sy’n wynebu pobl frodorol Aotearoa yn debyg i’r rheiny a wynebwyd gan y Cymry Cymraeg ddegawdau'n ôl. 

Dywedodd Katie Hall, prif leisydd CHROMA wrth Newyddion S4C: “O’n ni ddim o gwmpas yn y 70au a’r 80au pan ‘odd pobl yn ymladd dros yr iaith.

“A fi’n meddwl ni’n y generation sydd wedi elwa o tyfu lan yn byd lle mae signs dwyieithog a pholisïau iaith ar gael i edrych ar ôl yr iaith Gymraeg. 

“A mae cerdded o gwmpas fan hyn, chi’n gweld dechrau’r taith hwnna ond yn y ganrif yma. 

“Mae’n rili neis cael y pont hwnna a dysgu mwy amdano’r diwylliant,” meddai. 

‘Llygedyn o obaith’ 

Mae’r band Half/Time yn perfformio yn iaith eu mamwlad, sef te reo Māori. 

Yn ôl gitarydd y band, Wairehu Grant, mae’r sîn gerddoriaeth Gymraeg yn cynnig “llygedyn o obaith” i artistiaid sy’n perfformio mewn iaith leiafrifol.

“’Dyw e ddim yn unig amdano arian, mae’n bwysig cael mynediad a cyfleodd er mwyn ‘neud y diwydiant yn bosib a’n gynaliadwy.

“A dwi meddwl yng Nghymru, o be’ ‘dyn ni’n ei ddeall, mae newidiadau cadarnhaol wedi bod ac mae hyn yn hynod o gyffrous i weld bod hyn yn bosib,” meddai. 

Yn gynharach eleni, fe ymwelodd y band â Chymru i berfformio mewn nifer o gigs ledled y wlad. 

Wrth sôn am eu profiad dywedodd aelod Half/Time, Cee, fod y band wedi teimlo mwy o gefnogaeth yng Nghymru nac yn eu gwlad eu hunain. 

“Dwi’n meddwl mai’n deg i ddweud o’n ni ‘di derbyn mwy o gefnogaeth yng Nghymru gydag artistiaid Cymreig a phobl sy’n angerddol dros gadw’r iaith yn fyw na be’ rydyn ni ‘di teimlo fan hyn yn wlad ein hunan,” meddai. 

‘Tir cyffredin’ 

Fel rhan o’r prosiect, fe gafodd taith gerdded ei chynnal i ymweld â hen leoliadau cerddoriaeth Aotearoa sydd bellach wedi eu cau.

Wrth sôn am gynnal Prosiect Pūtahitanga dywedodd Dr Elen Ifan o Ysgol Gymraeg Prifysgol Caerdydd fod “tir cyffredin” rhwng yr iaith Gymraeg a iaith te reo Māori. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Yn sicr mae ‘na dir cyffredin a phethau tebyg o ran sut mae pobl yn teimlo am eu hiaith, am sut mae pobl wedi brwydro dros hawliau am yr iaith. 

“Ond mae yna wahaniaethau hefyd ac mae rhaid i ni gydnabod y rheiny. 

“Dyna pam ein bod ni wedi archwilio i bwyntiau cyswllt yn hytrach na chymharu yn uniongyrchol, mae ‘na wahaniaethau sylweddol o ran diwylliant ond hefyd o ran elfen ysbrydol hefyd. 

“Ond mae hefyd wrth gwrs rhaid i ni gydnabod fod Cymru wedi bod yn rhan o’r drefedigaeth yma yn Aotearoa ac felly o bosib wedi cyfrannu at erydu hawliau i'r iaith Māori,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.