Marwolaeth A55: Heddlu'n ymchwilio i amheuon fod cerbyd wedi ei ddwyn
Yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar yr A55 yn gynnar fore dydd Sadwrn mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad, gan gynnwys adroddiadau fod y cerbyd wedi ei ddwyn.
Cafodd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad yn Nwygyfylchi i gyfeiriad y dwyrain am 05:49 fore Sadwrn diwethaf.
Bu farw dyn oedd yn gyrru Hyundai gwyn yn y fan a'r lle.
Yn dilyn y digwyddiad fe wnaeth cwmni tacsi o Fangor ddweud mai un o'u cerbydau oedd yn y gwrthdrawiad.
Mewn datganiad brynhawn dydd Gwener, dywedodd Heddlu'r Gogledd bod eu hymchwiliad yn parhau, "gan gynnwys ymholiadau ynghylch yr amheuaeth o gymryd cerbyd modur heb ganiatâd.
"Mae hwn yn ymchwiliad byw ac felly rydym yn cynghori aelodau’r cyhoedd i beidio â dyfalu ar gyfryngau cymdeithasol ac i barchu preifatrwydd teulu’r dyn ar yr adeg anodd hon.
"Rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd yr A55 tua’r Dwyrain tuag at ardal Dwygyfylchi rhwng 5am-6am ac a allai fod wedi gweld y digwyddiad neu sydd â lluniau camera dashfwrdd a allai gynorthwyo ein hymchwiliadau, i gysylltu â ni."
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio ar unrhyw lygaid-dystion i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod A172376.