Storm Ciarán: Chwech wedi marw wedi llifogydd yn Twsgani
Mae ardaloedd mawr o Twsgani yn yr Eidal wedi cael eu taro gan lifogydd, gan adael chwech o bobl yn farw a chwech arall ar goll.
Cafodd ysbytai eu boddi, a phobl eu dal yn eu ceir yn ystod storm Ciarán.
Mae'r storm wedi achosi mwy na 10 marwolaeth ar draws gorllewin Ewrop.
Cofnodwyd gwyntoedd o 207km/h (129 mya) yn gynharach ar arfordir gogledd-orllewin Ffrainc, wrth i’r storm hefyd daro de Lloegr, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a’r Almaen, yn ogystal ag arfordir Iwerydd Sbaen a Phortiwgal.
Roedd plentyn pump oed yn un o ddau o bobol gafodd eu lladd yng Ngwlad Belg wrth i goed ddisgyn.
Inline Tweet: https://twitter.com/AlexandruJudeu/status/1720295980526928020
Cyrhaeddodd y storm Twsgani nos Iau, ac fe wnaeth y llywodraethwr rhanbarthol Eugenio Giani ddatgan cyflwr o argyfwng wrth i wyntoedd gyrraedd 140km yr awr.
Roedd Livorno, ar yr arfordir a threfi Prato a Montemurlo ger Fflorens, ymhlith yr ardaloedd gafodd eu heffeithio waethaf.
Yn Montemurlo, dywedodd swyddogion ddydd Gwener fod 200mm (7.8 modfedd) o law wedi disgyn ers prynhawn dydd Iau a bod afon Bisenzio wedi gorlifo.
Rhannodd llywodraethwr Twsgani fideo yn dangos ceir yn cael eu hysgubo i ffwrdd gan ddŵr llifogydd ac apelio ar i bobl fynd i loriau uwch mewn adeiladau.
Disgrifiodd maer Prato, Matteo Biffoni, ddigwyddiadau dros nos fel "ergyd i'r stumog".