'Trefn fewnol S4C yn broblem fawr' medd yr Athro Richard Wyn Jones
'Trefn fewnol S4C yn broblem fawr' medd yr Athro Richard Wyn Jones
Mae "trefn fewnol" S4C yn “broblem fawr” yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones
Wrth siarad ar raglen Y Byd yn ei Le dywedodd: “Ma anallu ymddangosiadol S4C i gadw trefn fewnol yn broblem fawr o ran hygrededd rheini sy’n dwued y ddylai S4C barhau fel corff annibynnol.
"Os ydyn nhw methu rheoli eu hunain yn fewnol ma hwnna’n broblem fawr i bawb sy’ eisiau gwneud y ddadl yna.”
Ym mis Ebrill, cafodd llythyr ei anfon o gyfrif e-bost anhysbys yn honni bod staff sy'n gweithio i'r sianel yn cael eu hanwybyddu a'u tanseilio gan y tîm rheoli.
Roedd yn gopi o lythyr a gafodd ei ysgrifennu at aelodau annibynnol bwrdd unedol S4C gan swyddog negodi undeb Bectu.
Mae’r cwmni cyfreithiol Capital Law wedi arwain ymchwiliad annibynnol llawn i bryderon a chwynion gweithwyr.
Yn ôl undeb Bectu, a wnaeth godi’r pryderon gyda’r sianel cyn yr haf, mae’r cwynion yn dyddio’n ôl mor bell a Thachwedd 2022.
Mae Bwrdd Unedol S4C yn disgwyl derbyn yr adroddiad i honiadau o fwlio yn S4C yn yr hydref.
'Argyfwng'
Aeth yr Athro Richard Wyn Jones ymlaen i ddweud bod y sefyllfa yn adlewyrchu “argyfwng ehangach darlledu cyhoeddus”.
“Mae’r argyfwng S4C yn rhan o argyfwng ehangach darlledu cyhoeddus yn yr ynysoedd hyn ac yn wir yn y byd gorllewinol,” meddai.
“A fydd y trwydded yn parhau mewn ugain mlynedd? Scarcily believe.
“Ma’r byd yna yn newid mor gyflym a da ni fel cymdeithas ddim yn fodlon cael y sgyrsiau anodd ynglŷn â hynny."
Darlledu yng Nghymru
Daw wedi adroddiad newydd 'Darlledu yng Nghymru' gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan ddatgelu fod maint y buddsoddiad sydd ei angen i gynnal darlledu yn Gymraeg yn "frawychus".
Mae'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig yn wynebu "difancoll digidol" os na fydd darlledu'n cael ei ddiwygio yng Nghymru, yn ôl yr adroddiad.
Mae’r adroddiad hefyd yn galw am gydweithio agosach rhwng BBC Cymru ac S4C, tra'n parhau i sicrhau brand unigryw ac annibyniaeth S4C.
Dywed yr adroddiad bod angen brys i unioni'r gwahaniaeth rhwng ariannu darlledwyr cyhoeddus sy'n darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn cystadlu gyda'r elw sydd yn cael ei gynhyrchu gan gwmnïau ffrydio rhyngwladol.