Gallai inswlin gael ei storio ar dymheredd ystafell medd ymchwil newydd
Mae astudiaeth newydd yn awgrymu y gellir cadw inswlin ar dymheredd ystafell am fisoedd heb achosi iddo golli nerth.
Gallai’r canfyddiadau newydd hyn effeithio ar filiynau o bobl sy’n byw mewn ardaloedd sydd â mynediad cyfyngedig i ofal iechyd neu bŵer.
Ni all pobl â diabetes wneud digon o inswlin ac mae'n rhaid i'r rhai â diabetes math 1 chwistrellu inswlin sawl gwaith y dydd, fel arfer cyn pob pryd bwyd.
Mae’r hormon yn helpu i droi bwyd yn egni ac yn rheoli lefelau siwgr yn y gwaed, ac mae’n feddyginiaeth hanfodol i’r rhai sydd â’r cyflwr.
Ar hyn o bryd mae Diabetes UK yn cynghori mai'r lle gorau i storio inswlin yw yn yr oergell, oherwydd mae angen ei gadw ar dymheredd sydd yn is na 25C.
Yn ôl yr elusen y tymheredd storio delfrydol yw 2C i 6C ac ar gyfer inswlin sy'n cael ei ddefnyddio ar y diwrnod, mae tymheredd yr ystafell fel arfer yn iawn.
Ond mae'r adolygiad newydd yn dangos ei bod yn bosibl storio costreli o fathau penodol o inswlin dynol, sydd heb eu hagor, ar dymheredd hyd at 25C am uchafswm o chwe mis, a hyd at 37C am uchafswm o ddau fis.
Dadansoddodd adolygiad Cochrane gyfanswm o 17 o astudiaethau, gan gynnwys ymchwiliadau i ffiolau inswlin.
Fe wnaeth data gan un o’r adolygiadau ddangos nad oedd unrhyw weithgaredd inswlin wedi'i golli wrth ei storio mewn tymereddau uwch.
Cafodd yr ymchwil ei arwain gan Dr Bernd Richter o Brifysgol Heinrich Heine yn yr Almaen i ddarganfod sefydlogrwydd inswlin o dan amodau storio amrywiol.
Dyweodd Dr Richter: “Tra bod diabetes math 2 yn cyflwyno ei heriau, mae diabetes math 1 yn golygu bod angen inswlin i oroesi.
“Mae ein hastudiaeth yn agor posibiliadau newydd i unigolion sy’n byw mewn amgylcheddau heriol, lle mae mynediad i oergelloedd yn gyfyngedig.
“Trwy ddeall sefydlogrwydd thermol inswlin ac archwilio datrysiadau storio arloesol, gallwn gael effaith sylweddol ar fywydau’r rhai sy’n dibynnu ar inswlin am eu lles.”