Trosglwyddo Tafarn y Cross yn Sir Benfro i berchnogaeth y gymuned
Mae Tafarn y Cross yng Nghas-lai yn Sir Benfro wedi cael ei throsglwyddo i berchnogaeth y gymuned.
Llwyddodd tîm o wirfoddolwyr i godi mwy na £200,000 o gyfrandaliadau cymunedol ac ychydig dros £240,000 mewn arian grant o Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.
Mae'r Gymdeithas wedi derbyn yr allweddi'n swyddogol gan y perchnogion presennol, ac maent yn bwriadu trawsnewid y dafarn cyn gynted ag y bo modd.
Eu bwriad ydy gallu ail-agor ymhen ychydig wythnosau er mwyn bod yn "dafarn a hwb cymunedol".
'Gwireddu breuddwyd ein cymuned'
Dywedodd Cadeirydd y Gymdeithas Geraint Evans: "Rydym ni i gyd wedi gweithio mor galed er mwyn cyrraedd y pwynt yma. Hoffwn estyn fy niolch twymgalon ar ran y Gymdeithas i bawb sydd wedi chwarae eu rhan wrth wireddu breuddwyd ein cymuned.
"Diolch yn fawr i’r tîm o wirfoddolwyr ymroddedig, ein ffrindiau, teuluoedd, preswylwyr y gymuned, rhanddeiliaid, nifer o fusnesau lleol, y perchnogion presennol Wayne ac Angela sydd wedi bod yn wych yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, ac i bawb am roi o’u hamser, ymdrech ac ewyllys da er mwyn bod hyn i gyd yn gallu digwydd.
"Dyn ni'n edrych ymlaen yn eiddgar i’ch croesawu i'r dafarn."
Ychwanegodd AS Preseli Penfore Stephen Crabb: "Mae hi wedi bod yn bleser i weithio’n agos gyda phwyllgor a gwirfoddolwyr lleol Y Cross Cas-lai yn ystod y misoedd diwethaf ar eu cais i Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU.
"Mae’r egni a’r brwdfrydedd y maen nhw wedi ei ddangos er mwyn cyrraedd y pwynt yma wedi cael cryn argraff arnaf, a dwi’n eu llongyfarch ar gyfnewid cytundebau. Mae hon yn garreg filltir bwysig yn y prosiect ac edrychaf ymlaen at fod yno ar y penwythnos agoriadol."