Achos Christopher Kapessa: Caniatáu adolygiad barnwrol

Mae teulu bachgen fu farw ar ôl disgyn i afon yn y de wedi llwyddo yn yr Uchel Lys i gael adolygiad o'r penderfyniad i beidio erlyn llanc ifanc oedd yn gysylltiedig gyda'r achos.
Nid oedd Christopher Kapessa yn gallu nofio pan gafodd ei wthio yn ôl adroddiadau i Afon Cynon, Rhondda Cynon Taf, ym mis Gorffennaf 2019.
Penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn erbyn cyhuddo llanc 14 oed, ond yn dilyn ymdrechion teulu Christopher fe fydd y penderfyniad hwnnw nawr yn cael ei adolygu.
Mewn gwrandawiad ddydd Iau, fe roddodd y barnwr, Mrs Ustus Cheema-Grubb ganiatâd i adolygiad barnwrol gael ei gynnal.
Mae rhagor o fanylion am y stori ar wefan ITV Cymru.
Darllenwch y stori'n llawn yma.