Prif feddyg Cymru yn galw ar fusnesau mawr i gymryd mwy o gyfrifoldeb am iechyd y cyhoedd
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru Syr Frank Atherton yn galw ar fusnesau mawr i gymryd mwy o gyfrifoldeb am iechyd y cyhoedd.
Daw ei sylwadau yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2023, sef 'Siapio ein Hiechyd', sy'n canolbwyntio ar strategaethau gan fusnesau i hyrwyddo dewisiadau sy'n niweidiol i iechyd y cyhoeddus.
Mae'r rhain yn cynnwys fêpio, gamblo a bwyd a diod sydd wedi eu prosesu yn eithafol.
Yn ôl Mr Atherton, gall diwydiannau mawr gael "dylanwad sylweddol ar ein hamgylchedd".
Mae'r adroddiad blynyddol yn edrych ar gyflwr iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn ogystal â gwneud argymhellion i'w gwella.
Dywedodd Syr Frank Atherton: "Mae angen inni ddefnyddio pob dull posibl i leihau'r risg y bydd pobl yn meithrin ymddygiad afiach fel ysmygu, bwyta deiet gwael, defnyddio cyffuriau ac alcohol, gamblo, a sicrhau hefyd eu bod yn gwneud digon o ymarfer corff.
“Yn aml, mae'r cynhyrchion hyn yn cael eu defnyddio cymaint o ganlyniad i'r strategaethau sy'n cael eu defnyddio gan y cwmnïau mawr sy’n eu cynhyrchu, eu marchnata, eu dosbarthu neu eu gwerthu, ac nid mater o 'ddewis' yr unigolyn yn unig yw hyn."
Mae Syr Atherton hefyd yn nodi yn ei adroddiad fod newid hinsawdd yn fygythiad i iechyd y cyhoedd ac yn galw ar fusnesau i gydnabod yr effaith ar yr argyfwng hinsawdd.
Er hyn, fe wnaeth ganmol busnesau sy'n datgarboneiddio.
'Cyfrifoldeb'
“Mae llawer o enghreifftiau cadarnhaol o fusnesau sy'n ymateb i'r bygythiad byd-eang o newid hinsawdd gan ddangos cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol," meddai.
“Ond mae fy adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y tueddiad cynyddol o gwmnïau sy'n twyllo defnyddwyr drwy farchnata eu cynhyrchion gan roi’r argraff eu bod nhw’n fwy ecogyfeillgar nag ydyn nhw mewn gwirionedd.”
Llun: Pixabay