Cummings: Cyfarfodydd Covid gyda llywodraethau Cymru a’r Alban yn ‘berfformiadau’
Cummings: Cyfarfodydd Covid gyda llywodraethau Cymru a’r Alban yn ‘berfformiadau’
Roedd cyfarfodydd Covid 10 Stryd Downing gyda llywodraethau Cymru a’r Alban yn “berfformiadau” lle nad oedd penderfyniadau o ddifri yn cael eu gwneud, yn ôl Dominic Cummings.
Dywedodd cyn ymgynghorydd y Prif Weinidog Boris Johnson yn Rhif 10 wrth ymchwiliad Covid-19 ei fod wedi gwthio am gyfarfodydd ar wahân i rai Cobra.
Doedd Llywodraeth y DU “ddim yn gallu penderfynu ar faterion pwysig” yn ymwneud â Covid gyda llywodraethau datganoledig a gweinidogion eraill yn bresennol, meddai.
“Doedd y cyfarfodydd gyda’r llywodraethau datganoledig ddim yn gyfarfodydd er mwyn gweithio allan y gwirionedd ar bynciau anodd,” meddai.
“Roedden nhw’n gyfarfodydd oedd yn berfformiad ac yn gydsymud ac yn swyddogaeth gyfansoddiadol.
“Doedd dim modd mynd at galon pethau yn yr ystafell yna.”
Rhan o’r rheswm am hynny oedd nad bod pobl yn rhedeg yn syth at y cyfryngau ac yn trafod beth oedd wedi digwydd, meddai.
Rheswm arall oedd bod yna wybodaeth gyfrinachol oedd angen ei drafod gyda’r Prif Weinidog a doedd dim modd gwneud hynny yn ymarferol gydag eraill yn bresennol.
‘Dibwrpas’
Daeth sylwadau Dominic Cummings wedi i Hugo Keith KC, Cwnsler Ymchwiliad Covid-19, ddangos e-byst a negeseuon Whatsapp o wanwyn 2020 iddo.
Yn y neges Whatsapp roedd Dominic Cummings yn dweud bod angen i Boris Johnson gadeirio cyfarfodydd Covid-19 heb gynnwys y ‘DAs’ - llywodraethau Cymru, yr Alban na chwaith gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.
“Mae angen i ti gadeirio cyfarfodydd dyddiol yn ystafell y Cabinet – nid COBRA – ar hyn o yfory ymlaen,” meddai.
“Dw i’n mynd i ddweud hyn wrth y system... HEB y DAs [llywodraethau datganoledig] ar y f***ing ffôn o hyd chwaith fel nad ydi pobl yn gallu dweud y gwir wrthot ti.”
Roedd hefyd e-bost gan Dominic Cummings at Helen MacNamara o Swyddfa Gabinet Llywodraeth y DU oedd yn dweud eu bod nhw “methu gwneud penderfyniadau [...] o flaen y Llywodraethau Datganoledig a llwyth o weinidogion”.
Ar ôl dangos y neges i Mr Cummings, dywedodd Hugo Keith KC, Cwnsler yr Ymchwiliad: “Fe wnaethoch chi danseilio'r cyfarfodydd Cobra, Mr Cummings.”
Atebodd Mr Cummings ei fod “yn sicr yn meddwl bod y cyfarfodydd Cobra a gawsom gyda’r Prif Weinidog yn Potemkin iawn, roedden nhw’n hynod o sgriptiedig.
“Ac yna ar ôl cael y pethau dibwrpas hyn, yna roedd gennym ni bob math o bobl yn rhedeg yn syth allan ac yn siarad â’r cyfryngau am yr hyn a ddywedwyd mewn ffordd gwbl annisgybledig.
“Ac roedd hynny wedyn yn tanseilio hyder y cyhoedd mewn pethau ac yn achosi llawer o drafferth.”
'Synnwyr'
Dywedodd Dominic Cummings ei fod eisiau i Michael Gove, Canghellor Dugiaeth Lancaster, gwrdd â’r llywodraethau datganoledig yn ystod y cyfnod hwnnw “am ei fod yn meddwl y byddai yn gwneud gwaith 10 gwaith gwell” na’r Prif Weinidog.
“Roedd yn gwneud mwy o synnwyr bod y Prif Weinidog yn canolbwyntio ar y trychineb oedden ni’n ei wynebu ar y diwrnod,” meddai.
“Doedd gofyn iddo siarad efo’r llywodraethau datganoledig ddim yn helpu’r achos.”