Newyddion S4C

Rygbi: Jamie Roberts yn ymuno ag Eddie Jones yng ngêm ffarwel Alun Wyn Jones

31/10/2023
Jamie Roberts Eddie Jones

Mae Jamie Roberts wedi ymuno ag Eddie Jones fel rhan o dîm hyfforddi y Barbariaid ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru ddydd Sadwrn.

Mae Jones, a wnaeth ymddiswyddo fel prif hyfforddwr Awstralia ddydd Llun, wedi enwi sawl chwaraewr o Awstralia a Ffiji yn y garfan ar gyfer y gêm yn Stadiwm Principality.

Ymhlith y sêr rhyngwladol fydd yn ymddangos mae’r Awstraliaid, Michael Hooper, Ben Donaldson ac Andrew Kellaway, Api Ratuniyarawa o Ffiji, yr Archentwr Nicolas Sanchez a Joe Moody o Seland Newydd.

Mae cyn capteiniaid Cymru, Alun Wyn Jones a Justin Tipuric hefyd wedi eu henwi yn y garfan ar gyfer gêm arbennig i ffarwelio â’r ddau, ar ôl iddyn nhw ymddeol o rygbi rhyngwladol ar drothwy Cwpan y Byd.

Bydd cyn ganolwr Cymru, Roberts, a chyn asgellwr Cymru Mark Jones, yn rhan o dîm hyfforddi Eddie Jones ar gyfer y gêm, ynghyd â Scott Robertson a Will Greenwood.

Jac Morgan fydd yn arwain y Cymry ar gyfer y gêm, tra bod disgwyl i Leigh Halfpenny ymddangos yn y crys coch am y tro olaf, ar ôl iddo gyhoeddi wythnos diwethaf ei fod hefyd yn rhoi’r gorau i chwarae dros Gymru.

Carfan y Barbariaiad:

Blaenwyr: Asafo Aumua (Seland Newydd), Joe Moody (Seland Newydd), Peni Ravai (Ffiji), Angus Bell (Awstralia), Taniela Tupou (Awstralia), Rob Leota (Awstralia), Alun Wyn Jones (Cymru), Tom Hooper (Awstralia), Justin Tipuric (Cymru), Michael Hooper (Awstralia), Api Ratuniyarawa (Ffiji), Rob Valetini (Awstralia), Tevita Ikanivere (Ffiji)

Olwyr: Simione Kuruvoli (Ffiji), Lautaro Bazan Velez (Yr Ariannin), Nicolas Sanchez (Yr Ariannin), Izaia Perese (Awstralia), Selestino Ravutaumada (Ffiji), Len Ikitau (Awstralia), Ilaisa Droasese (Ffiji), Ben Donaldson (Awstralia), Andrew Kellaway (Awstralia)

Carfan Cymru:

Blaenwyr: Corey Domachowski, Nicky Smith, Elliot Dee, Dewi Lake, Keiron Assiratti, Leon Brown, Adam Beard, Ben Carter, Teddy Williams, Dan Lydiate, Jac Morgan (Capten), Taine Plumtree, Aaron Wainwright.

Olwyr:  Kieran Hardy, Tomos Williams, Sam Costelow, Cai Evans, Mason Grady, George North, Johnny Williams, Rio Dyer, Leigh Halfpenny, Tom Rogers.

Bydd Cymru v Y Barbariaid yn cael ei ddangos yn fyw ar S4C am 14.00 ar ddydd Sadwrn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.