Newyddion S4C

Busnesau yn Abertawe yn colli 'miloedd o bunnoedd' oherwydd y gwasanaeth trên yn y ddinas

Newyddion S4C 30/10/2023

Busnesau yn Abertawe yn colli 'miloedd o bunnoedd' oherwydd y gwasanaeth trên yn y ddinas

Mae busnesau yn Abertawe yn dweud eu bod nhw’n colli miloedd o bunnoedd oherwydd y gwasanaeth trên yn y ddinas.

Mae perchnogion lleoliadau cerddoriaeth yn dweud bod angen i’r trenau redeg yn hwyrach yn ôl i’r dwyrain i lefydd fel Caerdydd, gan ddadlau bod yn rhaid i ymwelwyr "ruthro" i ddal y trên olaf, ar hyn o bryd. 

Yn ôl un arbenigwr, mae angen buddsoddi yn y gwasanaeth yn y ddinas i ddenu mwy o ymwelwyr a busnesau.

Mewn ymateb, fe ddywedodd Trafnidiaeth Cymru fod ganddyn nhw yr uchelgais hir dymor i ychwanegu gwasanaethau hwyrach o Abertawe i Gaerdydd.

Os am deithio i’r dwyrain o Abertawe ar nos Wener i lefydd fel Castell-nedd, Penybont-ar-Ogwr neu Gaerdydd, mae’r trên olaf yn gadael y ddinas am 22:32. Ond, os yn teithio i’r cyfeiriad arall, ac o Gaerdydd er enghraifft, mae trenau yn rhedeg tan 01:00.

Yn ôl Scott Mackay, rheolwr oriel a bar Elysium ar y stryd fawr ger yr orsaf yn Abertawe, mae hyn yn medru amharu ar fwynhad y noson. 

“Mae’n meddwl bod ni’n colli mas ar lawer o busnes ac arian achos mae pobol yn gorfod rhuthro i ffwrdd.

“Os i chi’n mynd i weld sioe yn yr arena er enghraifft, mae llawer o opsiynau i fynd i gael bwyd neu diod ar ôl, ond achos yr amserau tren, ni’n colli mas ar y cwsmeriaid yna ac felly yn colli mas ar arian.

“Mae llawer o busnesau independent ar y Stryd Fawr yn arwain i’r gorsaf tren, fel Hippos a Jam Jar a mwy, a rydyn ni i gyd yn teimlo’r un peth. 

“Byddai’n gofyn i Drafnidiaeth Cymru i rhoi mwy o drenau arno, mae’n syml. Rydyn ni gyd yn colli busnes oherwydd hynny.”

Mae Stuart Ackland yn berchen ar far Hippos, hefyd ar y Stryd Fawr.

“Ni yw’r bar agosaf i’r gorsaf tren, oni bai am y gwesty ar y cornel. Mae posibilrwydd i ni i allu cael lot o busnes wrth bobol sy’n cerdded heibio i fynd i’r orsaf, ond mae lot o bobol yn gorfod bod ar y tren ar gyfer y gwasanaeth olaf i’r dwyrain erbyn 22.30.

“Felly os i ni gyda gig fan hyn,efallai mae pobol yn gallu aros i weld y perfformwyr sydd arno yn gyntaf, ond wedyn mae rhaid iddyn nhw adael cyn y perfformiad olaf i allu dal y tren. 

“Dyna’r unig ffordd mae nhw’n gallu mynd adref os mae nhw di bod yn yfed, oni bai bod nhw’n aros mewn gwesty ond wedyn mae hynny’n mynd yn ddrud.

“Ni’n cael pobol mewn pob wythnos yn gofyn pa amser ma hwn arno, a wedyn ni’n dweud yr amser, ond ma nhw’n gorfod gadael a pheidio ymuno gyda ni oherwydd yr amserau tren.” 

Yn ôl yr athro Stuart Cole, Athro Emeritws ym maes Trafnidiaeth ym Mhrifysgol De Cymru, mae diffyg trenau hwyr yn mynd yn groes i gynlluniau Llywodraeth Cymru sydd eisiau gweld mwy o bobol yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

“Mae pobol yn mynd mewn i Abertawe, i Theatr y Grand neu llefydd arall, ac mae’r sioeau yna yn gorffen am 22.30 neu 23.00.

“Felly os ydy’r tren diwethaf am 22:30, bydd pobol yn dod mewn yn y car a gadael yn y car.

“Mae nhw ddim yn defnyddio’r tren o gwbl, a dyna beth mae pawb yn treial cael pobol i wneud, perswadio nhw. Ond os nad ydy’r gwasanaeth yn gyfleus i nhw, bydd pobol ddim yn defnyddio’r trenau neu’r bysus.”

Mewn ymateb fe ddywedodd Trafnidiaeth Cymru, “Fel rhan o'n hymrwymiad i wella gwasanaethau ar draws rhwydwaith Cymru a’r gororau, mae gennym ni uchelgais hir dymor i ychwanegu gwasanaethau hwyrach o Abertawe i Gaerdydd. 

"Mae’r newidiadau hyn yn dibynnu ar gael yr hawliau angenrheidiol gan Network Rail, i wneud yn siŵr nad yw trenau hwyrach yn effeithio ar waith cynnal a chadw’r rheilffordd dros nos.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.