Tua 680 o weithwyr cwmni ffenestri yn colli eu gwaith
Mae tua 680 o weithwyr cwmni ffenestri a drysau Safestyle wedi colli eu gwaith.
Daeth cyhoeddiad brynhawn Llun fod y cwmni wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, Interpath Advisory.
Gyda'u pencadlys yn Bradford, gogledd Lloegr, mae gan y cwmni ganolfannau yng Nghasnewydd ac Abertawe yn ogystal â degau o siopau yn Lloegr.
Roedd y cwmni yn cyflogi oddeutu 750 o weithwyr.
Yn ôl Interpath Advisory, bydd tua 70 o weithwyr yn cadw eu swyddi am y tro, er mwyn cynorthwyo gyda'r gwaith gweinyddol wrth ddod â'r cwmni i ben.
Yn ôl y gweinyddwyr, fe aeth Safestyle i drafferthion oherwydd y pwysau cynyddol yn sgil chwyddiant.
Roedd y tywydd anarferol o gynnes ym mis Medi hefyd yn ffactor, gan arwain at lai o alw am eu cynnyrch, medd y gweinyddwyr.
LLUN: Safestyle UK