Newyddion S4C

Perchnogion ‘mewn panig’ wrth i gŵn XL Bully gael eu gwahardd

Y Byd ar Bedwar 30/10/2023

Perchnogion ‘mewn panig’ wrth i gŵn XL Bully gael eu gwahardd

Yn ôl un hyfforddwr cŵn, mae perchnogion “mewn panig” ac yn “poeni gymaint” yn sgíl y cyhoeddiad y bydd y brîd XL Bully wedi’i wahardd erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae Jackie Hughes o Glwb Hyfforddi Cŵn Dyffryn Nantlle yn dweud bod ganddi restr aros hir o berchnogion XL Bully sydd eisiau sesiynau ar frys gyda’u cŵn.

“Mae pobl yn poeni gymaint, dydyn nhw ddim eisiau cyfaddef mai XL Bully sydd ganddyn nhw,” meddai wrth raglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar.

Daw’r gwaharddiad posib yn dilyn cyfres o ymosodiadau yn y Deyrnas Unedig, gyda’r XL Bully yn gyfrifol am 70% o farwolaethau gan gŵn ers dechrau 2022. Fodd bynnag, mae’r brîd ei hun ond yn cynrychioli llai nag 1% o boblogaeth cŵn y wlad.

Er hyn, mae Jackie yn poeni na fydd y gwaharddiad yn gostwng nifer y cŵn peryglus.

“Mae’n rhaid cofio mai dim jyst yr XL Bully sydd ar fai. Wnaeth banio’r pitbull ddim gweithio gan eu bod nhw’n dal o gwmpas.

“Bydd pobl anghyfrifol yn parhau i fridio efo’r ci mwyaf, y ci mwya cas a’r ci sy’n edrych mwyaf bygythiol. Dyna’r bobl anghywir sydd ddim yn caru eu cŵn.”

Image
XL YBAB
Llun: ITV Cymru Wales

Un sydd wedi trefnu ei sesiwn gyntaf gyda Jackie yw’r perchennog a’r bridiwr XL Bully, Kayley Ireland o Borthmadog.

Mae hi’n credu mai cosbi’r perchnogion anghyfrifol yw’r ffordd ymlaen, nid gwahardd y brîd i gyd.

“Dydy’r bobl sydd yn bridio’r cŵn bygythiol yma ddim yn mynd i boeni am gofrestru eu cŵn,” meddai. 

“Dwi’n reit upset, dwi’n rhwystredig, oherwydd mae pawb yn cael eu cosbi o achos y bobl sydd heb ofalu am eu cŵn a’u codi nhw i fyny’n iawn i fod yn ffeind.”

'Symbol o statws'

Eleni’n barod, mae dros 400 o bobl wedi’u hanafu gan gŵn yng Ngogledd Cymru yn unig, gyda dros 10% o’r rheiny’n anafiadau difrifol.

Mae Kayley, sy’n berchen ar ddau gi XL Bully, yn dweud bod y penawdau diweddar wedi codi ofn arni.

“Mae 99.9% ohonof fi yn coelio bydden nhw byth yn gwneud hynny," meddai.

"Ond os bysen nhw’n dangos unrhyw arwydd o gasineb tuag at bobl, byddwn i’n meddwl o ddifrif am eu rhoi nhw lawr. Maen nhw’n rhy fawr ac yn rhy gryf i gymryd y siawns.”

Ar hyn o bryd, mae pedwar math o gi wedi’i wahardd o dan y Ddeddf Cŵn Peryglus 1991, gan gynnwys y pitbull terrier.

Bydd rhaid i berchnogion ymgeisio am dystysgrif eithrio os am gadw’r ci, er mwyn profi nad yw’r anifail yn berygl i’r cyhoedd.

Image
XL YBAB
Llun: ITV Cymru Wales

Ond mae un gyfreithwraig flaenllaw sy’n arbenigo mewn cyfraith cŵn yn feirniadol iawn o’r ddeddf.

“Beth ddigwyddodd wrth wahardd y pitbull oedd bod y bobl anghywir yn gweld cael ci o’r fath yn symbol o statws, gan ei fod yn anghyfreithlon ac yn fygythiol,” meddai Jennifer Kabala.

“Mae’r Ddeddf Cŵn Peryglus wedi bod mewn grym ers 32 o flynyddoedd, ond mae’r dystiolaeth sy’n profi bod gwahardd brîd penodol o gŵn yn gweithio yn brin iawn.

“Cafodd y ddeddf ei chyflwyno yn gyflym iawn yn y lle cyntaf, ac rwy’n ofni ein bod yn ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol gyda’r gwaharddiad hyn.”

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn “cymryd camau brys i wireddu ymrwymiad y Prif Weinidog i wahardd y math o frîd cŵn XL Bully, yn dilyn cynnydd yn nifer yr ymosodiadau a marwolaethau.”

“Does dim angen i berchnogion XL Bully gymryd unrhyw gamau ar hyn o bryd”, ac y bydd “cyfnod pontio lle bydd rhagor o fanylion am sut fydd hyn yn gweithio yn y dyfodol.”

Gwyliwch raglen Y Byd ar Bedwar ar S4C, nos Lun am 8yh.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.