Cerbyd cwmni tacsi o Fangor mewn gwrthdrawiad angheuol ar yr A55
Mae cwmni tacsi o Fangor wedi dweud mai un o'u cerbydau oedd mewn gwrthdrawiad angheuol ar yr A55 ddydd Sadwrn.
Bu farw person yn y gwrthdrawiad un cerbyd.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd cwmni tacsi Premier Group North Wales, sydd wedi ei leoli yn Llandygai, eu bod yn cynorthwyo'r heddlu gyda'u hymchwiliad.
Mae'r cwmni wedi rhannu eu cydymdeimladau dwysaf gyda theulu'r unigolyn fu farw.
Cafodd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad yn Nwygyfylchi i gyfeiriad y dwyrain am 05:49.
Bu farw gyrrwr cerbyd Hyundai gwyn yn y fan a'r lle.
Mae ei deulu a'r crwner wedi cael eu hysbysu am y farwolaeth ac mae ymchwiliad yr heddlu'n parhau.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio ar unrhyw lygaid-dystion i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod A172376.
Cafodd yr A55 i gyfeiriad y dwyrain ei chau au am nifer o oriau gyda theithwyr yn cael eu cyfeirio i ddefnyddio ffyrdd yr A5 a'r A470 ddydd Sadwrn.