Capten De Affrica yn diolch yn Gymraeg er mwyn 'dangos parch'
Mae capten De Affrica wedi esbonio pam ei fod wedi dweud 'diolch' yn Gymraeg wrth sylwebydd ar ddiwedd cyfweliad yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc yr wythnos ddiwethaf.
Mewn cyfweliad newydd gyda S4C Chwaraeon, dywedodd Siya Kolisi ei fod wedi dweud “diolch” er mwyn “dangos parch i Aled (Walters).”
Roedd y Cymro Aled Walters yn bennaeth perfformiad athletaidd De Affrica pan wnaethon nhw ennill Cwpan Rygbi’r Byd yn 2019.
Cafodd capten De Affrica ei ganmol gan wylwyr yng Nghymru y penwythnos diwethaf wedi iddo ddweud “diolch” ar ôl i’w dîm guro Lloegr er mwyn cyrraedd y ffeinal.
Wrth gael ei gyfweld ar ôl y gêm gynderfynol fe wnaeth Siya Kolisi ddweud “Thank you” yn Saesneg wedi i’r sylwebydd ei longyfarch ar gyrraedd y rownd derfynol.
Ac roedd nifer o wylwyr o Gymry wedi eu hargyhoeddi ei fod wedi dweud “diolch” hefyd.
Inline Tweet: https://twitter.com/s4cchwaraeon/status/1718315092671107105?s=46&t=8_ZLl4YnoFM45jEVr5Ad7w
Wrth gael ei holi am y cyfarchiad, dywedodd capten y Springboks: “Mae fe [Aled Walters] wastod wedi dweud [diolch] wrtha i.
“Dywedodd e sawl gair wrtha i. Doeddwn i methu dweud pob un ohonynt ond roedd diolch bach yn haws.
“Rwy’n trio dysgu rhywbeth o bob gwlad. Rwy’n credu bod e’n bwysig i ddangos parch. Dyna pwy ydyn ni, pobl De Affrica.
"Ond ie, dim ond rhywbeth fe wnes i ddysgu wrth Aled Walters.”
Xhosa yw iaith gyntaf Siya Kolisi ac mae hefyd yn siarad Afrikaans a Saesneg yn rhugl.
Bu capten y Springboks yn chwarae i dîm y Sharks yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig rhwng 2020 a 2022 ac mae felly wedi arfer cyfarch y cyfryngau yng Nghymru.
Fe fydd De Affrica yn wynebu Seland Newydd yn ffeinal Cwpan Rygbi’r Byd nos Sadwrn.
Llun: Stefano Delfrate.