Newyddion S4C

Oedi i deithwyr o faes awyr Bryste yn dilyn gwrthdrawiad

28/10/2023
maes awyr bryste

Cafodd dwsinau o hediadau eu gohirio yn dilyn gwrthdrawiad ger maes awyr Bryste ddydd Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffordd yr A38 gyn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn yr oriau mân.

Dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf fod un person wedi dioddef anafiadau a allai beryglu ei fywyd.

“Mae tri o bobol wedi’u harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, dau ohonyn nhw’n parhau yn yr ysbyty, ac un yn y ddalfa,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Mae’r ffordd bellach wedi’i hailagor a diolchwn i’r cyhoedd am eu hamynedd a’u dealltwriaeth wrth i ni gynnal ymchwiliadau.”

Roedd hediadau o’r maes awyr wedi’u hatal tan 08:00 o ganlyniad i’r digwyddiad ac fe fydd oedi drwy gydol gweddill y dydd i deithwyr.

“Yn dilyn y gwrthdrawiad traffig cynharach, mae’r A38 bellach ar agor i’r ddau gyfeiriad,” meddai llefarydd ar ran y maes awyr.

“Mae disgwyl rhywfaint o oedi o hyd weddill y dydd a chynghorir cwsmeriaid i wirio gyda’u cwmnïau hedfan am y wybodaeth ddiweddaraf.”

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.