Crasfa i Gymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd Merched UEFA
Mae Cymru wedi colli eu trydedd gêm yn olynol yng Nghynghrair y Cenhedloedd Merched UEFA yn dilyn colled 5-1 yn erbyn Yr Almaen.
Mae'r canlyniad yn gadael tîm Gemma Grainger ar waelod y grŵp wedi'r tair gêm agoriadol.
Ar ôl dominyddu'r 20 munud cyntaf, fe sgoriodd yr Almaen wedi 25 munud. Lea Schüller oedd y sgoriwr, gyda pheniad i gefn y rhwyd o groesiad Sarai Linder.
Parhau gwnaeth y pwysau ond roedd Cymru yn gwrthymosod ac yn creu cyfleoedd eu hunain.
Ac fe wnaeth Cymru lwyddo i unioni'r sgôr ychydig funudau cyn yr egwyl yn dilyn symudiad campus.
Ar ôl cyfnod o chwarae da ar gyrion cwrt cosbi'r Almaenwyr, fe basiodd y Jess Fishlock y bêl allan i Sophie Ingle. Yn dilyn ei chroesiad, fe wnaeth Angharad James roi ôl-sodliad i gyfeiriad Ceri Holland, a rwydodd yn y cwrt chwech.
Crasfa'r ail hanner
Dechreuodd yr ail hanner yn wael i Gymru wrth i'r tîm cartref sgorio ar ôl 49 eiliad yn unig, gyda Schuller yn rhwydo unwaith eto o groesiad gan yr eilydd Linda Dallmann.
Roedd Yr Almaen yn parhau i greu cyfleoedd ond roedd arbediadau campus Olivia Clark yn cadw Cymru yn y gystadleuaeth.
Wedi 79 munud fe wnaeth y dyfarnwr rhoi cic o’r smotyn i'r Almaen wedi i Sophie Ingle tynnu chwaraewr i’r llawr.
Giulia Gwinn wnaeth sgorio o’r smotyn i wneud hi'n 3-1 i'r tîm cartref.
Sjoeke Nusken sgoriodd y pedwerydd i'r Almaen wedi i'w hergyd gwirio heibio Olivia Clark.
Ac fe ddaeth y pumed wedi 88 munud pan wnaeth croesiad i'r postyn cefn ganfod Nicole Anyomi, i rwydo.
Bydd Cymru yn wynebu Denmarc ar ddydd Mawrth 31 Hydref cyn herio'r Almaen a Gwlad yr Iâ ym mis Rhagfyr.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru