Newidiadau i system bleidleisio’r Senedd yn ‘beryglus’ meddai arbenigwr
Mae arbenigwr a awgrymodd gynllun sydd bellach ar waith i ddiwygio’r Senedd wedi dweud y gallai newidiadau i’r system bleidleisio fod yn “beryglus”.
Dywedodd Alan Renwick sy’n athro mewn gwyddor wleidyddol ym mhrifysgol UCL y byddai mabwysiadu’r newidiadau yn dieithrio pleidleiswyr.
Roedd yn gydawdur adroddiad a gyhoeddwyd yn 2017, Senedd sy’n Gweithio i Gymru, oedd yn edrych ar ffyrdd gwahanol o ddiwygio’r Senedd.
Ond dywedodd ei fod bellach yn anghytuno gyda’r modd y mae Aelodau o Senedd Cymru wedi rhoi argymhellion yr adroddiad ar waith.
Os yw’r newid yn cael ei gymeradwyo bydd pleidleiswyr yn dewis pleidiau yn hytrach nag unigolion yn yr etholiad nesaf i Senedd Cymru.
Ond dywedodd Alan Renwick wrth un o bwyllgorau’r Senedd ei fod yn “gwbl, gwbl eglur y byddai hynny yn dieithrio pleidleiswyr ymhellach,” meddai.
“Wrth gynyddu nifer y gwleidyddion mae’n berygl iawn rhoi llai o rym i bleidleiswyr i benderfynu pwy yw’r gwleidyddion rheini.
“Hoffwn i annog y pwyllgor a’r Senedd i ystyried yn ofalus iawn a ydyn nhw eisiau mynd i lawr y llwybr hwnnw.”
Caeedig
Roedd awduron yr adroddiad yn 2017 wedi awgrymu cynyddu nifer yr aelodau i 96 o'r 60 presennol - newid sydd bellach ar waith.
Roedden nhw hefyd wedi argymell system pleidlais sengl drosglwyddadwy er mwyn rhoi rhagor o ddewis i bleidleiswyr.
Ond penderfynodd y Blaid Lafur a Phlaid Cymru y byddai aelodau yn cael eu hethol o restrau parti caeedig.
Mae hynny’n golygu na fydd modd i bleidleiswyr ddewis rhwng aelodau o’r un blaid wrth bleidleisio.
Dywedodd yr Athro Laura McAllister, a oedd hefyd yn un o awduron adroddiad 2017, ei bod hi’n cytuno ei fod yn gam gwag.
“Mae’n rhoi gormod o rym i’r blaid a dim digon i’r etholwyr,” meddai.
“Mae yna beryg hefyd na fydd pleidleiswyr yn fodlon cefnogi’r newid os ydyn nhw’n gwybod eu bod nhw yn cael dewis y blaid ond ddim yr ymgeisydd.”