Newyddion S4C

Data yn dangos bod dros 100 o gŵn wedi'u gwahardd yn byw yng Nghymru

27/10/2023
American XL Bulldog

Mae data gan Lywodraeth y DU yn dangos bod mwy na 100 o gŵn sydd wedi'u gwahardd  yn parhau i fyw mewn cartrefi yng Nghymru.

Cafodd y BBC ddata trwy gais Rhyddid Gwybodaeth gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra). 

Fe wnaeth y data ddatgelu bod 3,499 o gŵn sydd wedi’u gwahardd wedi’u cofrestru ar draws y DU.

Roedd 13 yn yr Alban a 3,316 ohonynt yn Lloegr.

Mae pedwar brid wedi’u gwahardd o dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991: Yr 'American pit bull terrier', 'Japanese tosa', 'Dogo Argentinos' ac 'Fila Brazileiro'.

Fis diwethaf fe wnaeth Rishi Sunak, Prif Weinidog y DU wahardd Cŵn tarw American XL, gan ddweud bod y brîd yn “berygl i’n cymunedau”.

Fe ddaeth y cyhoeddiad yn dilyn cyfres ddiweddar o ymosodiadau treisgar gan y brid cŵn.

'Agos'

Ym mis Tachwedd y llynedd, cafodd Jack Lis, 10 oed, ei ladd gan fwli Americanaidd XL tra yn nhŷ ffrind yng Nghaerffili.

Cafodd perchnogion y ci, Amy Salter a Brandon Haydon, eu carcharu o ganlyniad i'r ymosodiad. 

Ym mis Hydref eleni, cafodd dynes ei hanafu ar ôl i’w chi American XL ei hun ymosod arni yn Norfolk.

Gall y cŵn hyn bwyso mwy na naw stôn (60kg) ac maen nhw'n aml yn fwy cryf a phwerus nag oedolyn.

Mae gweinidogion yn San Steffan yn parhau gyda'r gwaith o fanylu ar weithredu gwaharddiad arfaethedig ar gŵn tarw 'American XL'. 

Ond mae cryn ansicrwydd am sut yn union y bydd y gwaharddiad hwn yn digwydd.

Mae cwestiynau yn parhau ynglŷn â sut yn union y bydd gwaharddiad yn cael ei weithredu a’i orfodi, gyda phryderon hefyd am yr her o ddiffinio’r brîd cŵn o ystyried ei natur croesfrid.

Dywedodd Therese Coffey, Ysgrifennydd yr Amgylchedd i Lywodraeth y DU ei bod yn “eithaf agos” at gyflwyno’r gwaharddiad arfaethedig ar y brîd.

Dywedodd ei bod yn credu bod “diffiniad da” o’r math o gi wedi’i gytuno, gyda dim ond “ychydig o bethau eraill” fel iawndal angen eu cymeradwyo.

Mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif bod tua 10,000 o fwlis Americanaidd XL yn y DU tra bod elusen anifeiliaid Blue Cross yn awgrymu ei fod yn debycach i 15,000.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.