Newyddion S4C

Cymru'n chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yng Nghynghrair Cenhedloedd Merched UEFA

27/10/2023
Jess Fishlock

Bydd Cymru yn chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yng nghystadleuaeth Cynghrair y Cenhedloedd Merched UEFA yn erbyn yr Almaen nos Wener.

Mae tîm Gemma Grainger wedi colli eu dwy gêm agoriadol yn erbyn Gwlad yr Iâ a Denmarc.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Hoffenheim yn Yr Almaen am 16:45 ac fe fydd yn gyfle i Gymru sicrhau eu pwyntiau cyntaf.

Cymru sydd ar waelod y grŵp tra bod yr Almaen yn ail gyda thri phwynt ar ôl dwy gêm.

Y garfan

Ni fydd Rachel Rowe ar gael i wynebu'r Almaen wedi iddi ddioddef anaf tra'n chwarae i'w chlwb Rangers.

Dywedodd Grainger bod hynny'n ergyd i Gymru ond bod ganddynt ddigon o chwaraewyr sydd yn gallu cymryd ei lle yng nghanol cae.

"Rydym yn amlwg yn siomedig fod Rachel wedi gorfod aros gartref," meddai Grainger.

“Ond un o’r pethau rydw i wedi canolbwyntio arno yw dyfnder yn y garfan a nawr mae gennym hynny, ac efallai nad oedd ganddom pan ddechrauais yn y swydd.

“Mae gennym ni ddwy, dair neu bedair o chwaraewyr sy’n gallu camu i’r safle. Felly rydyn ni eisiau i Rachel wella cyn gynted â phosib, ond rydw i’n gyffrous iawn gan ei fod yn rhoi cyfle i chwaraewyr eraill.” 

Mae Hannah Cain yn dychwelyd i’r garfan ar ôl colli ei lle fis diwethaf oherwydd anaf, ac mae’r chwaraewr canol cae Josie Longhurst wedi ei chynnwys.  

Mae Longhurst wedi bod yn aelod o garfanau'r gorffennol, ac wedi cynrychioli Cymru ar lefel D17 a D19 dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Jess Fishlock a’r capten Sophie Ingle hefyd wedi’u cynnwys. 

Dyma'r garfan yn llawn:

Laura O’Sullivan (Merched Dinas Caerdydd), Olivia Clark (Bristol City), Safia Middleton-Patel (Manchester United), Hayley Ladd (Manchester United), Josie Green (Leicester City), Gemma Evans (Manchester United), Rhiannon Roberts (Real Betis), Charlie Estcourt (Reading), Lily Woodham (Reading), Esther Morgan (Hearts), Anna Filbey (Crystal Palace), Ella Powell (Bristol City), Sophie Ingle (Chelsea), Angharad James (Tottenham Hotspur), Jess Fishlock (OL Reign), Rachel Rowe (Rangers), Ffion Morgan (Bristol City), Megan Wyne (Southampton), Ceri Holland (Lerpwl), Ellen Jones (Sunderland), Josie Longhurst (Reading), Kayleigh Green (Charlton Athletic), Hannah Cain (Leicester City), Carrie Jones (Bristol City), Elise Hughes (Crystal Palace), Mary McAteer (Sunderland).

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.