Newyddion S4C

Nifer gwrandawyr BBC Radio Cymru wedi gostwng bron i 30,000 mewn blwyddyn

26/10/2023
Radio Cymru

Fe wnaeth nifer gwrandawyr BBC Radio Cymru ostwng bron i 30,000 ym mis Medi o gymharu gyda'r un cyfnod flwyddyn yn ôl.

Yn ôl ffigyrau gwrando diweddaraf Rajar, roedd 102,000 o bobl wedi gwrando ar yr orsaf ym mis Medi 2023 - o'i gymharu â  131,000 dros yr un cyfnod yn 2022.

Roedd canran cyrhaeddiad yr orsaf wedi gostwng 20% dros yr un cyfnod hefyd, gyda chanran yr oriau gwrando ar gyfartaledd yn gostwng 33%.

Fe welwyd gostyngiad hefyd yng nghyfanswm yr oriau gwrando ymysg y gynulleidfa o 1,545 awr ym mis Medi 2022 i 1,013 awr ym mis Medi eleni - sef gostyngiad o 34%.

Pan roedd nifer y gwrandawyr ar ei anterth yn ystod pedwerydd chwarter 2021 - yn ystod y pandemig, roedd 164,000 o bobl yn gwrando ar yr orsaf.

Mae nifer yr oriau gwrando ers hynny wedi bron â haneru, gyda gostyngiad o bron i 62,000 yn nifer y gwrandawyr erbyn mis Medi eleni o gymharu gyda'r cyfnod ddwy flynedd yn ôl.

Mewn ymateb i'r ffigurau diweddaraf, dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Mae ffigyrau RAJAR yn cael eu cyhoeddi yn chwarterol ac fel bob chwarter byddwn yn edrych yn ofalus ar y data gaiff ei gyflwyno.  

 “Rydym yn falch iawn mai BBC Radio Cymru yw’r orsaf fwyaf poblogaidd o ran siaradwyr Cymraeg rhugl sy’n gwrando am 12 awr a 27 munud yr wythnos ar gyfartaledd. 

"Mae’r BBC hefyd wedi cyflwyno cynlluniau i Ofcom i greu Radio Cymru 2 fel gorsaf lawn ac yn gobeithio datblygu’r cynlluniau cyffrous hynny dros y misoedd nesaf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.