Sylwadau Andrew RT Davies yn 'wirion ac amhriodol', meddai Elin Jones
Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies wedi cael ei gyhuddo o 'gasineb at ferched' yn sgil ei sylwadau ar sianel deledu GB News nos Fercher.
Ar raglen Nigel Farage ar GB News, awgrymodd Mr Davies fod Llywydd y Senedd Elin Jones "yn rhy brysur yn gwneud ei gwallt" i ymddangos ar y rhaglen.
Mae Elin Jones bellach wedi ymateb i’r sylwadau, gan eu galw yn “wirion” ac “amhriodol.”
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Ms Jones: “Mae fy ngwallt wedi dod yn stori newyddion!
“Wnes i lwyddo i fychanu sylwadau gwirion ac amhriodol Andrew. Ond nid ei le o oedd gwneud.
“Roeddwn i o hyd yn ddweud mai’r Torïaid oedd y gwleidyddion mwyaf cwrtais. Be’ ddigwyddodd?”
Inline Tweet: https://twitter.com/ElinCeredigion/status/1717566247779308020?s=20
Cafodd rhaglen Nigel Farage ar y sianel deledu ei darlledu o gangen Llandaf ac Elai gyda Chymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol yng Nghaerdydd nos Fercher.
Dywedodd Mr Farage eu bod nhw wedi gwahodd Ms Jones i ymddangos ar y rhaglen, ond nad oedden nhw wedi derbyn "unrhyw ateb o gwbl."
Atebodd Mr Davies drwy ddweud: "Yn brysur yn gwneud ei gwallt."
Inline Tweet: https://twitter.com/GBNEWS/status/1717250257996652868?s=20
Daw ei sylwadau wedi i'r sianel deledu gael ei thynnu oddi ar system fewnol y Senedd ym Mae Caerdydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywydd y Senedd Elin Jones ar 17 Hydref: "Mae GB News wedi cael ei dynnu o system deledu fewnol y Senedd yn dilyn darllediad diweddar a oedd yn fwriadol yn sarhaus, yn diraddio dadl gyhoeddus ac yn mynd yn groes i'n gwerthoedd ni fel senedd. Mae Ofcom bellach yn cynnal sawl ymchwiliad i'r sianel.
"Bydd y Comisiwn yn trafod y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol, a gall staff ac aelodau sydd yn dymuno parhau i wylio GB News wneud hynny ar-lein yn y Senedd."
'Cwbl warthus'
Wrth ymateb i sylwadau Andrew RT Davies, dywedodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething ddydd Iau fod hyn yn "gasineb at fenywod cwbl warthus gan Andrew RT Davies, a dylai ymddiheuro ar unwaith i'r Llywydd."
Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth fod yna "ddiffyg parch ofnadwy gan Arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig tuag at Aelod o'r Senedd, Llywydd y Senedd a dynes.
"Mae ei gasineb at fenywod yn deillio un ai o ddiffyg balchder neu ddiffyg ymwybyddiaeth llwyr."
Dywedodd Andrew RT Davies: "Mae'r ymadrodd yma yn cael ei ddefnyddio gan nifer o Gymry, rhywbeth dwi wedi ei ddweud am ddynion, menywod ac hyd yn oed fi fy hun.
"Efallai bod Llafur a Phlaid Cymru yn meddwl mai dyma brif fater y dydd, ond mae fy ffocws i ar flaenoriaethau pobl Cymru i leihau'r amseroedd aros yn y GIG a chael gwared ar y terfyn cyflymder 20mya."